John Ieuan Jones yn canu un o'r caneuon Cymraeg mwyaf teimladwy a dirdynnol, 'Dafydd y Garreg Wen'
Criw Pen Barras yn gwneud i bawb wenu gyda'u perfformiad chwareus o 'Lolipop' ar Noson Lawen.
Cymeriadu celfydd gan John Ieuan Jones yn ei berfformiad o 'Pe Bawn I'n Gyfoethog' ar Noson Lawen.
Medli hyfryd gan Glain Rhys ar Noson Lawen – 'Ddoi di draw / Ar lan y môr'.
Dafydd Iwan ac Ar Log yn cofio'n hoffus am y diweddar D J Williams yn y gân 'Y Wên Na Phyla Amser'.
Heulen Cynfal yn perfformio 'Cân Chwerthin Adele', cyfieithiad y diweddar Dyfnallt Morgan o 'Mein Her Marquiss' gan Strauss.
Hyder a her ym mherfformiad Côr Ffermwyr Ifanc Meirionnydd o'r gân 'Mae'r Dyfodol yn ein Dwylo Ni' dan arweiniad Arfon Williams gyda Catrin Jones yn cyfeilio.
Ar Log yn perfformio medli bywiog o alawon traddodiadol ar Noson Lawen fel rhan o'u dathliadau i nodi 40 mlynedd o berfformio.
Dafydd Iwan ac Ar Log yn herio'r Cymry i sefyll yn gryf yn y gân 'Cerddwn Ymlaen' i gloi Noson Lawen a recordiwyd yn Y Bala.