Shan Cothi â pherfformiad o un o ffefrynnau Gŵyl y Geni - Nadolig Pwy a Wyr gan Ryan Davies.
Nia Rees yn cynnwys elfen o jás mewn perfformiad o'r gân fytholwyrdd Hen Geiliog y Gwynt gan Ryan Davies ar Noson Lawen.
Digon o hwyl a chwerthin ar Noson Lawen wrth i Griw Bro Ddyfi ail greu'r sgets am wyliau yn Y Swisdir a berfformiwyd gan y diweddar Ryan Davies, Ronnie Williams a Bryn Williams.
Côr Ysgol Lwyfan Encore o ardal Rhydaman yn perfformio Y Pethau Bach dan arweiniad Elin Murphy mewn Noson Lawen i ddathlu cyfraniad y diweddar Ryan Davies a aned ac a fagwyd yng Nglanaman.
Shan Cothi a Rhys Meirion yn perfformio Yn Y Bore ar Noson Lawen - un o ddeuawdau hyfrytaf Ryan a Ronnie.
Ymuna Aled Wyn Davies â chyfeiliant piano Chris Needs i berfformio un o'r ffefrynnau o waddol caneuon y diweddar Ryan Davies - Ti a Dy Ddoniau.
Ymuna Ieuan Rhys gyda Chôr Ysgol Lwyfan Encore i berfformio Ffrind I Mi mewn Noson Lawen i ddathlu bywyd a chyfraniad y diweddar Ryan Davies.
Ymuna Bois Ceredigion gyda'r unawdwyr Shan Cothi, Rhys Meirion ac Aled Wyn Davies mewn perfformiad o anthem o gân Pan Fo'r Nos yn Hir mewn Noson Lawen o deyrnged i Ryan Davies.