Harmoni clos a lleisiau cyfoethog Ensemble Ysgol Plasmawr gyda medli o ganeuon poblogaidd y band Bandana ar Noson Lawen.
Disgyblion ieuengaf Ysgol Gymraeg Y Trallwng yn dwyn gwên i wyneb pawb gyda'u perfformiad annwyl a bywiog o'r garol Sêr Y Nos Yn Gwenu.
Deio Llŷr Davies-Hughes yn creu awyrgylch cynnes a Nadoligaidd gyda'i berfformiad ar y corned o fedli o ganeuon tymhorol.
Mali Llyfni yn perfformio'r gân Tywysog Tangnefedd gan Dafydd Iwan sy'n edrych ar wir ystyr y Nadolig.
Lleisiau caboledig Côr Ysgol Theatr Maldwyn yn canu Pan Ddaeth Y Gair Yn Gnawd mewn Noson Lawen Nadoligaidd.
Cywreinder cerddorol wrth i driawd piano y chwiorydd Kwok berfformio Overture Carmen gan Bizet mewn Noson Lawen arbenning gyda thalentau ifanc o Gymru.
Perfformiad arbennig gan ddisgyblion Ysgol Hafod Lon a'u hathro Meilyr Wyn o gân hyfryd o waith Meilyr Wyn yn dwyn y teitl Ffarwel Haf.
Llŷr Ifan Eirug ac Elain Cain, sy'n aelodau o Ysgol Theatr Maldwyn, yn perfformio'r ddeuawd hyfryd Cariad Dan Olau y Sêr mewn Noson Lawen arbennig gyda thalentau ifanc o Gymr.
Diweddglo pwerus i Noson Lawen Nadoligaidd gyda thalentau ifanc o Gymru'n perfformio Er Cof Am Eni'r Iesu.
Gwion Morris Jones yn canu cân newydd sbon gan Gwion Gwilym a Rhian Mair Jones yn dwyn y teitl Dinasyddion Y Byd ar Noson Lawen.
Celyn Llwyd Cartwright â pherfformiad hyfryd o Un Seren gan Delwyn Siôn ar Noson Lawen.