Y grŵp Hen Fegin - Roy, Jac, Bryn a Rhys, yn perfformio Ar Ben Waun Tredegar mewn Noson Lawen yn Llanfair Caereinion.
Linda Griffiths yn canu Siwrnai Ddi-ben-draw - cân a gyfansoddwyd ar ôl colli ei Mam.
Sorela - y dair chwaer Lisa, Gwenno a Mari, yn perfformio Am Ba Hyd mewn Noson Lawen wedi ei recordio yn Llanfaircaereinion.
Aneira Evans, soprano o Aberhosan yn canu O! Grwydryn Ffôl allan o operetta Pirates of Penzance ar Noson Lawen.
Y grŵp Plethyn yn perfformio Cân Melangell ar Noson Lawen - cân sy'n seiliedig ar chwedl Santes Melangell, tywysoges o'r Iwerddon a ffôdd i Gymru a dod i fyw i Bennant Melangell. Mae'r hanes yn deud bod Brochwel, Tywysog Powys wrthi'n hela ysgyfarnog a bod honno wedi cuddio tu ôl i ffedog Melangell ac o ganlyniad rhoddodd y Tywysog y gorau i hela yn y cwm.
Hen Fegin, Linda Griffiths a Sorela'n perfformio trefniant Lisa Angharad o Santiana mewn Noson Lawen gyda theulu Penbryn, Meifod.
Linda Griffiths a Sorela yn perfformio'r gân Fel hyn mae'i fod ar Noson Lawen - yr alaw gan Linda a'r geiriau o waith Myrddin ap Dafydd.
Côr Meibion Penybontfawr yn perfformio Cerddwn Ymlaen gan Dafydd Iwan dan arweiniad Rhonwen Broom gyda Linda Thomas yn cyfeilio.
Llond llwyfan o artistiaid fu'n rhan o Noson Lawen Teulu Penbryn Meifod yn ymuno i ganu'r gân sy'n cloi'r noson - Seidr Ddoe - y gerddoriaeth gan Linda Griffiths a'r geiriau gan Myrddin ap Dafydd.