Cordia yn perfformio Dim Ond Un, cân wreiddiol o waith Rhys Jones a Ffion Elin Davies, ar Noson Lawen.
Ymuna Côr Dre ac offerynwyr o Seindorf Arian Deiniolen gydag Elfed Morgan Morris i berfformio Rho Dy Law i gloi Noson Lawen a recordiwyd yn Pontio.
Cordia - triawd merched ifanc o Sir Fôn yn agor yr arlwy ar Noson Lawen gyda'u cân wreiddiol Celwydd.
Elfed Morgan Morris yn perfformio cân newydd yn dwyn y teitl Y Lle Sy'n Well Ar Wahân ar Noson Lawen, yr alaw o'i waith ei hun a'r geiriau gan y bardd Karen Owen.
Eve Goodman gyda chymorth Nerys Richards ar y sielo yn perfformio'r gân draddodiadol Dacw Nhariad I Lawr Yn Y Berllan ar Noson Lawen.
Côr Dre o dre'r Cofis gyda'u harweinyddes Sian Wheway yn perfformio Rhyfeddod gan y cyfansoddwr Eric Jones ar Noson Lawen.
Gwelwyd Gwilym (Ifan Pritchard) yn perfformio Llechan Lân, ei sengl gyntaf, ar Noson Lawen.
Welsh Whisperer yn tynnu coes gyda'r gân Tyllau yn y Llawr ar Noson Lawen.
Y ddeuawd Glesni Fflur a Gethin Fôn yn perfformio Dal y Gannwyll - cân o waith Gethin.
Sefydlwyd Seindorf Arian Deiniolen yn 1835 gan griw o chwarelwyr Dinorwig, a gwelwyd ensemble o'r band yn perfformio Soul Bossa Nova dan arweiniad Lois Eifion ar Noson Lawen.