Dafydd Iwan yn canu Cân Y Medd ar Noson Lawen - ei alaw ar gerdd Yr Athro T Gwynn Jones.
Y ddeuawd Robyn Lyn Evans ac Aneira Evans yn canu Nos O Ser A Nos O Serch (Barcarolle) gan Offenbach ar Noson Lawen.
Côr Meibion Machynlleth a'u harweinydd Aled Myrddin yn perfformio Gwinllan A Roddwyd ar Noson Lawen - i gyfeiliant Caradog Williams, sef cyfansoddwr y gerddoriaeth.
Malen Meredydd Aeron yn ymddangos am y tro cyntaf ar Noson Lawen i berfformio'r ffefryn Nid Llwynog Oedd Yr Haul gan Geraint Lovgreen a Myrddin ap Dafydd.
Hwyl gyda Gwibdaith Hen Frân ar Noson Lawen wrth glywed am yr anturiaethau wrth grwydro'r wlad yn y Toyota Corolla GLI yn y gân Car Bach Fi.
Parti Ysgol Glantwymyn yn canu Cwrlid ar Noson Lawen.
Dafydd Iwan yn canu'r gân Esgair Llyn ar Noson Lawen - y geiriau wedi eu hysgogi o'i atgofion o dreulion gwyliau'r haf efo'i ewythr ar ei fferm yn Aberhosan ym Mro Ddyfi.
Hwyl a churo traed wrth i gynulleidfa'r Noson Lawen fwynhau un o ganeuon mwyaf poblogaidd Gwibdaith Hen Frân - Trons Dy Dad.
Ymuna Côr Meibion Machynlleth gyda'r tenor Robyn Lyn Evans mewn datganiad pwerus o Yn Llaw Fy Nuw.