Perfformiad egnïol o 'Tchavolo Swing' gan Billy Thompson a'i Fand Sipsi ar Noson Lawen.
Tara Bethan yn perfformio 'Y Gwylwyr' - un o ganeuon y grŵp Brân o'r 1970au.
John Ieuan Jones ar lwyfan Noson Lawen â pherfformiad pwerus o 'Sêr' allan o'r sioe gerdd Les Misérables.
Hogie'r Berfeddwlad â'u perfformiad cellweirus o'r gân draddodiadol 'Mari'.
Digon o hwyl a direidi gyda threfniant Ensemble FfI Ysbyty Ifan o gân gan y canwr gyfansoddwr Gildas - 'Y Gŵr o Gwm Penmachno'.
Aiff John Ieuan Jones â chynulleidfa Noson Lawen ar daith gerddorol at lannau'r Missouri gyda'i ddatganiad o 'Shenandoah'.
Ymuna Tara Bethan a Chôr Bro Cernyw i ganu cân wladgarol o waith Gwyneth Vaughan yn dwyn y teitl 'Molawd Cymru' ar Noson Lawen.
Côr Bro Cernyw gyda'u harweinyddes Alaw Llwyd Owen yn perfformio 'Ysbryd y Nos', un o glasuron y grŵp Edward H Dafis.
Datganiad teimladwy o'r gân 'Y Weddi' ar Noson Lawen gan y ddeuawd Sara Davies a Ryan Davies.