Bwncath ar lwyfan y Noson Lawen yn perfformio Curiad y Dydd gan Elidyr Llywelyn Glyn - sef y gân fuddugol yng nghystadleuaeth gyntaf Tlws Coffa Alun Sbardun Huws a gyflwynwyd yn Eisteddfod Genedlaethol Y Fenni.
Meinir Gwilym a Ryland Teifi yn canu deuawd am y tro cyntaf erioed ar Noson Lawen a recordiwyd yn Llanbed - Enaid Hoff Cytun.
Digon o hwyl a chwerthin yng nghwmni Bois y Rhedyn o ardal Tregaron ar lwyfan Noson Lawen yn eu perfformiad o Dallt y Gêm
Lleisiau ifanc disgybledig Côr Dwynant yn mwynhau perfformio Cân T Llew (J Eirian Jones) mewn Noson Lawen yn Llanbed.
Meinir Gwilym yn perfformio Cân i Ti ar Noson Lawen - cân dyner i blentyn yn mynegi'r dyhead am i bob plentyn gael yr un cyfle a'r rhyddid i ddatblygu a bod yn nhw'u hunain.
Perfformiad cyhyrog gan Bwncath ar Noson Lawen o'r gân Barti Ddu - yn dwyn i gof y môr leidr enwog o Gasnewydd-Bach.
Dychwela Ryland Teifi i'w gynefin yng Ngheredigion ac i lwyfan y Noson Lawen i ganu cân yn dwyn y teitl addas Nôl.
Un o sêr ifanc Ceredigion, Alwena Mair Owen yn ei hymddangosiad cyntaf ar Noson Lawen yn perfformio'r gân Cwm Alltcafan (J Eirian Jones).