Digon o hwyl gyda Phil Gas a'r Band yn eu hymddangosiad cyntaf ar y gyfres Noson Lawen a'u perfformiad o Seidr ar y Sul.
Stori ramant ar lwyfan y Noson Lawen gyda pherfformiad Rhys Meirion o'r gân serch hyfryd Musica Proibita.
Daw Cymru a Phatagonia ynghyd mewn cân ar y Noson Lawen ym mherfformiad Rhys Meirion ac Alejandro Jones o Calon Lan ar yr alaw Deio Bach.
Alejandro Jones o Drefelin ym Mhatagonia yn perfformio Cofio dy Wyneb (Emyr Huws Jones) mewn Noson Lawen yn Llanbed tra ar ei ymweliad â Chymru.
Côr Merched Ger y Lli gyda'u harweinydd Gregory Vearey-Roberts yn diddori cynulleidfa'r Noson Lawen gyda pherfformiad o eiriau sy'n sôn am nerth y gân yn ein cynnal ar adegau anodd bywyd.
Digon o hwyl ar y Noson Lawen ym mherfformiad bywiog Ensemble Ysgol Bro Teifi o drefniant o'r gân werin Deryn y Bwn.
Mari Mathias ar lwyfan y Noson Lawen yn Llanbed yn perfformio un o'i chyfansoddiadau ei hun - Ysbryd y Tŷ.
Llond lwyfan o aelodau Côr Aelwyd ac Adran Yr Urdd Llanbedr Pont Steffan yn mwynhau diddori'r gynulleidfa mewn Noson Lawen yn Llanbed gyda'u perfformiad o Dangos y Ffordd (Robat Arwyn).