Al Lewis yn perfformio Y Parlwr Lliw i gynulleidfa Noson Lawen o'r Cymoedd - cân a ysbrydolwyd ar ôl ymweliad â Thonyrefail a meddwl am hanesion y bobl leol sy'n mynd i'r siopau tatŵ.
Côr Meibion Treorci, sydd wedi mynd â hwyl a chroeso'r Cymoedd ledled y byd, ar lwyfan y Noson Lawen yn perfformio un o'r caneuon y mae pob cynulleidfa yn ei mwynhau - Myfanwy (Joseph Parry).
Rachel Stephens, y gantores o Dreherbert, gyda chymorth Ensemble Aelwyd Cwm Rhondda mewn perfformiad grymus o 'Yn Rhydd' mewn Noson Lawen gyda chyd-artistiaid o'r Cymoedd.
Perfformiad arbennig gan Gareth Pearson, dewin y gitâr ar Noson Lawen o'r Cymoedd.
Ragsy, y canwr talentog o Aberdar yn ddiddanu cynulleidfa Noson Lawen o'r Cymoedd gyda'i gân hyfryd, Fy Hafan I.
Digon o hwyl gyda Chôr y Gleision ar Noson Lawen mewn perfformiad egniol o Hen Ferchetan
Ymuna Geraint Cynan gyda Cleif Harpwood i ganu'r gân fytholwyrdd Mistar Duw mewn Noson Lawen gydag artistiaid o'r Cymoedd.
Kizzy Crawford mewn Noson Lawen gydag artistiaid o'r Cymoedd yn perfformio'i chân Adlewyrchu Arnaf i - gyda'r geiriau'n annog yr unigolyn i gredu ynddo'i hun.
Perfformiad arbennig gan Al Lewis a Kizzy Crawford o'u deuawd hyfryd Dianc O'r Diafol ar Noson Lawen.