Mei Gwynedd ac Elin Fflur yn perfformio 'Cwm Ieuenctid' - cân a gyfansoddwyd gan Mei ar gyfer sesiwn radio i gofio am y cyfansoddwr a'r cerddor Alun Sbardun Huws.
Erin Fflur ac Emyr Lloyd Jones yn perfformio 'Beth Yw Bywyd' ar Noson Lawen, deuawd hyfryd gan Ann Eleri Richards a Delyth Haf Rees.
Elfed Morgan Morris yn perfformio 'Y Galw' ar lwyfan y Noson Lawen - cân a gyfansoddodd ar y cyd gyda Lowri Watcyn Roberts.
Emyr Lloyd Jones yn canu 'Pwy sy' isho papur newydd' - cân draddodiadol addas iawn i Noson Lawen o Gaernarfon o gofio fod y dref yn cael ei hadnabod fel prifddinas yr inc yn yr 19fed ganrif oherwydd yr holl argraffdai a fyddai'n cynhyrchu papurau newydd a chylchgronau o bob math.
Côrnarfon yn canu cân gyda theitl addas iawn iddyn nhw - 'Caernarfon' gan Robat Arwyn a Meirion Mcintyre Huws.
Erin Fflur yn canu 'Seguidila' ar Noson Lawen - cân y spisi allan o'r opera Carmen gan George Bizet.
Mei Gwynedd yn perfformio'r gân 'Tafla'r Dis' ar lwyfan Noson Lawen Tre'r Cofis.
Gwenno Fôn, talent ifanc newydd o Gaernarfon, yn canu ei chân wreiddiol 'Mehefin y Cyntaf' ar Noson Lawen gyda chyd artistiaid o Dre'r Cofis.
Elin Fflur yn perfformio un o'i chaneuon poblogaidd 'Cloriau Cudd' ar Noson Lawen.