Hanesion doniol am fagwraeth y dair chwaer ym mherfformiad Sorela o 'Cân y Chwiorydd' ar Noson Lawen.
Côr Ysgol Gynradd Aberaeron yn perfformio 'Un Llais' (Robat Arwyn a Robin Llwyd ab Owain) ar Noson Lawen gydag artistiaid o ardal arfordir Ceredigion.
Cerdd dant gydag Ela Mablen Griffith Jones a'r delynores Nest Jenkins ar Noson Lawen - gosodiad Bethan Bryn o 'Cadw-mi-gei' (Tudur Dylan Jones) ar y gainc Pen Dinas (Elsbeth M Jones).
Y grŵp Mellt, sydd â'i aelodau'n wreiddiol o Aberystwyth, yn dychwelyd i'r Gorllewin i berfformio 'Planhigion Gwyllt' mewn Noson gydag amrywiol artistiaid o ardal arfordir Ceredigion.
Dychwela Sorela i'r Gorllewin i ganu 'Adar Aber' ar Noson Lawen - cân gan y dair chwaer am ardal eu magwraeth yn ardal Aberystwyth.
Cleif Harpwood yn perfformio 'Tyrd i Edrych' - un o ganeuon cynnar Edward H Dafis, gyda chymorth Pwyll ap Sion a Steffan Rhys Williams.
Elidyr Glyn ar Noson Lawen yn perfformio'r gân fuddugol yng nghystadleuaeth Cân i Gymru 2019.
Datganiad hyfryd o 'Ysbryd y Nos' gan Cleif Harpwood gyda chymorth Pwyll ap Sion a Sorela ar y Noson Lawen.
Doreen Lewis, un o garedigion y Noson Lawen a Brenhines Canu Gwlad yng Nghymru, yn perfformio 'Cae'r Blode Menyn'.
Dychwela Meilyr Sion i'w ardal enedigol yng Ngheredigion i berfformio'r gân 'Mr Cellophane' o'r sioe Chicago ar Noson Lawen.