Daniel Lloyd a Mr Pinc sy'n canu 'Syniad da'. Ffurfiwyd y band gwreiddiol, 'Mr Pinc' gan griw o chweched dosbarth o Lanystumdwy, Eifionydd cyn datblygu i fod yn 'Daniel Lloyd a Mr Pinc' rai blynyddoedd yn ddiweddarach.
Yr actor a'r canwr o Borthmadog, Dion Lloyd sy'n perfformio'i gân wreiddiol, 'Y gadair unig' ar lwyfan y Noson Lawen.
Pedwarawd Hendre Cennin sy'n perfformio 'Rwy'n mynd oddi yma'- yr alaw wedi'i chyfansoddi gan Lois Eifion a'r geiriau gan Twm Morys.
Y soprano sy'n wreiddiol o Roslan, Alys Mererid Roberts sy'n perfformio 'Mai' gan Meirion Williams ar Noson Lawen Eifionydd.
Glesni Owen sy'n diddanu cynulleidfa'r Noson Lawen fel 'Mena Menapôs' gydag eitem gerdd dant ddoniol.
Y ferch ifanc o Chwilog, Lowri Glyn sy'n canu cân arbennig Gwyneth Glyn sef 'Adra' ar lwyfan Noson Lawen Eifionydd.
Daniel Lloyd a Mr Pinc sy'n canu'r glasur, 'Goleuadau Llundain'. Ffurfiwyd y band gwreiddiol, 'Mr Pinc' gan griw o chweched dosbarth o Lanystumdwy, Eifionydd cyn datblygu i fod yn 'Daniel Lloyd a Mr Pinc' rai blynyddoedd yn ddiweddarach.
Ffion Emyr, arweinydd Noson Lawen Eifionydd a 50 Shêds o Lleucu Llwyd sy'n perfformio trefniant arbennig Rhys Taylor o 'Calon' gan Caryl Parry Jones.