Y ddeuawd boblogaidd, John ac Alun sy'n canu geiriau Hywel Gwynfryn am un o ardaloedd harddaf Cymru, 'Penrhyn Llyn' ar lwyfan y Noson Lawen.
Gyda chymorth Robat Arwyn ar y piano, Rhys Meirion sy'n perfformio 'Fel hyn am byth' sef y gân ddiweddaraf i gael ei chyfansoddi gan Robat Arwyn a Hywel Gwynfryn. Mae'r gân yn ddilyniant i un o ganeuon mwyaf poblogaidd y ddau sef 'Anfonaf Angel'.
Lynwen Haf Roberts sy'n perfformio medli o rhai o ganeuon adnabyddus y ffilm boblogaidd 'Y dyn nath ddwyn y 'Dolig' - ffilm gafodd ei hysgrifennu gan Hywel Gwynfryn a Caryl Parry Jones.
Perfformiad hyfryd Linda Griffiths o 'Tyfodd y bachgen yn ddyn' allan o sioe 'Jac Tŷ Ishe' gan Hywel Gwynfryn a Caryl Parry Jones.
Gyda chymorth Tom Howells a band y Noson Lawen, Lynwen Haf Roberts sy'n perfformio 'Dagrau'r glaw' allan o'r sioe gerdd 'Plas Du' gan Hywel Gwynfryn a Robat Arwyn.
Anya Gwynfryn Chaletzos sy'n perfformio 'Anfonaf Angel' mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen i ddathlu penblwydd ei thad, Hywel Gwynfryn yn 80 oed.
Tara Bethan sy'n perfformio 'Shampŵ' - un o ganeuon poblogaidd Caryl Parry Jones a Hywel Gwynfryn - mewn Noson Lawen arbennig i ddathlu penblwydd Hywel yn 80 oed.
Owain Gwynfryn sy'n perfformio geiriau ei dad, 'Tu draw i'r byd a'i boen' - cân allan o'r opera roc 'Melltith ar y nyth' gafodd ei hysgrifennu gan Hywel Gwynfryn ac Endaf Emlyn ym 1974.
Gwilym Bowen Rhys sy'n perfformio cân bwerus o waith Meic Stevens a Hywel Gwynfryn am ryfel erchyll Fietnam.