Melda Lois Griffiths sy'n wreiddiol o Gynllwyd ger Llanuwchllyn sy'n perfformio ei chân wreiddiol, 'Hwyliau llonydd' ar lwyfan Noson Lawen Y Berwyn.
Gethin a Glesni sy'n diddanu cynulleidfa'r Noson Lawen gyda pherfformiad o'u cân wreiddiol, 'California'.
Y côr gwerin poblogaidd o ardal Penllyn sef Eryrod Meirion sy'n perfformio eu datganiad nhw o un o'r hen ffefrynnau, 'Moliannwn'.
Gyda chymorth Dylan Cernyw ar y delyn yn ogystal â band y Noson Lawen, Glain Rhys sy'n perfformio ei chân wreiddiol, 'Sara'.
Gyda chymorth Dylan Cernyw ar y delyn, Lleucu Arfon ac Elin Haf sy'n perfformio deuawd gerdd dant fel rhan o Noson Lawen Y Berwyn.
Mary Lloyd-Davies ac Annette Bryn Parri sy'n swyno cynulleidfa Noson Lawen Y Berwyn gyda pherfformiad teimladwy o 'Y Berwyn'.
Meilir Rhys Williams, Steffan Prys Roberts, Glain Rhys ac Osian Williams sy'n perfformio trefniant acwstig o un o ganeuon hyfryd Linda Griffiths ar lwyfan Noson Lawen Y Berwyn.
Eryrod Meirion sy'n perfformio trefniant newydd o'r gân bwerus 'Geiriau gwag' allan o'r sioe gerdd boblogaidd 'Er mwyn yfory' gan Penri Roberts, Derec Williams a Robat Arwyn.