Gwi Jones, y canwr o Aberystwyth sy'n perfformio 'Os neith yfory' ar lwyfan Noson Lawen Ceredigion.
Rhian Lois a'i dehongliad hi o un o ganeuon poblogaidd Emyr Huws Jones, 'Cofio dy wyneb'.
Ryland Teifi sy'n diddanu cynulleidfa Noson Lawen Ceredigion gyda'i berfformiad o'i gân hyfryd, 'Stori ni'.
Mari Mathias a'r band sy'n perfformio 'Y Cwilt' - cân wreiddiol sy'n sôn am smyglwr enwog o Orllewin Ceredigion o'r enw Siôn Cwilt.
Ryland Teifi sy'n perfformio 'Mae yna le' ar lwyfan y Noson Lawen sef cân fuddugol Rhydian Meilir yng nghystadleuaeth Cân i Gymru, 2022.
Miri Llwyd, y gantores ifanc o ardal Aberystwyth sy'n perfformio un o ganeuon hyfryd Tecwyn Ifan, 'Bytholwyrdd'.
Rhian Lois sy'n perfformio'r aria boblogaidd i lais y soprano gan Puccini, 'O mio babbino caro'.
Mari Mathias a'r band sy'n perfformio 'Rebel', cân oddi ar ei halbwm ddiweddaraf, ar lwyfan Noson Lawen Ceredigion.