Trefniant hyfryd o 'Cariadon Bosnia' gan Arfon Wyn yn cael ei berfformio gan Catrin Angharad ac Irfan Rais mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen i ddathlu penblwydd Arfon yn 70 oed.
Dylan Morris sy'n perfformio 'Dyddiau gwell' ar lwyfan y Noson Lawen - cân a gyd-ysgrifennodd gyda neb llai na Arfon Wyn.
Perfformiad Elin Angharad o 'Y lleuad a'r sêr' - cân gafodd ei hysgrifennu gan Arfon Wyn a ddaeth yn fuddugol yng nghystadleuaeth 'Cân i Gymru' yn 2015.
Ensemble Côr Hŷn Ieuenctid Môn sy'n perfformio 'Credaf' - cân gan un o gyfansoddwyr mwyaf poblogaidd yr ynys, Arfon Wyn.
Edern sy'n perfformio trefniant hyfryd o 'Paid a cau y drws' mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen i ddathlu penblwydd y canwr a'r cyfansoddwr o Fôn, Arfon Wyn.
Arfon Wyn sy'n perfformio'r glasur 'Cae o ŷd' gyda'r Moniars mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen i ddathlu ei benblwydd yn 70 oed.
Èlin Fflur sy'n ymuno efo'r Moniars ac ensemble Côr Hŷn Ieuenctid Môn i berfformio 'Harbwr diogel', un o ganeuon mwyaf poblogaidd Arfon Wyn mewn noson arbennig i ddathlu ei benblwydd yn 70 oed.
Meilyr Wyn, disgyblion a staff Hafod Lon sy'n perfformio medli o ganeuon hwyliog Arfon Wyn sef 'Rhwyfo lawr yr afon', 'Draw draw yn Mecsico' a 'Pwy wnaeth y sêr uwchben'.
Gyda chymorth Irfan Rais, y fam a merch o Fôn, Nest Llewelyn ac Elin Fflur sy'n perfformio trefniant arbennig o 'Ni welaf yr haf' - cân fuddugol Arfon Wyn yng nghystadleuaeth Cân i Gymru nôl ym 1979.
Gyda chymorth triawd Edern, Catrin Angharad sy'n perfformio 'Pan ddaw yr haf' - cân gafodd ei chyfansoddi gan Arfon Wyn a ddaeth yn ail yng nghystadleuaeth Cân i Gymru nôl ym 1982.