Steffan Hughes a Steffan Harri, cyflwynwyr Noson Lawen y Sioeau Cerdd sy'n perfformio 'Croeso i'r sioe' - cân gafodd ei hysgrifennu'n arbennig gan Catrin Angharad ar gyfer y rhaglen.
Luke McCall, un o sêr y West End sy'n perfformio 'Dy garu o bell' allan o'r sioe 'Er mwyn yfory' ar lwyfan Noson Lawen y Sioeau Cerdd.
John Ieuan Jones, Steffan Prys Roberts, Celyn Cartwright, Jodi Bird ac Elain Llwyd sy'n perfformio 'Wedi dwlu' allan o'r sioe gerdd 'Hwn yw fy mrawd'.
Ensemble o ysgol berfformio Glanaethwy sy'n perfformio 'Dal fi' - gwaith Einion Dafydd a Cefin Roberts o'r sioe 'Breuddwyd roc a rôl'.
Perfformiad Steffan Harri o 'Melltith ar y nyth' - cân allan o'r sioe gerdd o'r un enw gafodd ei hysgrifennu gan Endaf Emlyn a Hywel Gwynfryn nôl ym 1974.
Joey Cornish a Lily Beau sy'n perfformio 'Gyda'n gilydd' - cân allan o'r sioe gerdd newydd, 'Anthem' ar lwyfan Noson Lawen y Sioeau Cerdd.
Al Lewis a Celyn Cartwright sy'n perfformio medli o ddwy o ganeuon y sioe gerdd 'Te yn y grug' - sioe sy'n seiliedig ar y llyfr o'r un enw gan Kate Roberts.
John Ieuan Jones, Jodi Bird, Elain Llwyd ac Ensemble Glanaethwy sy'n perfformio trefniant gan John Quirk o fedli o ganeuon allan o'r sioe gerdd 'Teilwng yw'r oen'.
Steffan Hughes sy'n perfformio 'Hon yw'r foment' ar lwyfan Noson Lawen y Sioeau Cerdd - cân gafodd ei hysgrifennu gan Caryl Parry Jones a Hywel Gwynfryn ar gyfer y sioe 'Popdy'.
Perfformiad o rai o ganeuon mwyaf poblogaidd Theatr Maldwyn sef 'Ar Noson fel hon', 'Rwy'n dy weld yn sefyll' ac 'Eryr Pengwern' sy'n cloi Noson Lawen y Sioeau Cerdd.