Actorion ifanc cyfres 'Rownd a Rownd', Gwern, Gethin a Noel sy'n perfformio'r garol fach dyner 'Dilyn y sêr' i gyfeiliant band y Noson Lawen ac Idris Morris Jones ar y ffidil.
Yn perfformio 'Rhwng Bethlehem a'r groes', Manw Robin, Llew Davies a Gwyn Vaughan sy'n serennu ar lwyfan y Noson Lawen gyda chymorth band y Noson Lawen a chriw actorion y gyfres 'Rownd a Rownd'
Angharad Llwyd, Gwenno Beech a Phylip Hughes sy'n ymuno gyda band y Noson Lawen i berfformio trefniant hyfryd o'r garol 'Alaw Mair' ar Noson Lawen 'Dolig 'Rownd a Rownd'.
Ensemble o actorion benywaidd cyfres 'Rownd a Rownd' sy'n perfformio cân Cadi Gwen 'Nadolig am ryw hyd' ar lwyfan y Noson Lawen.
Iwan Fôn a Manw Robin sy'n perfformio cân y diweddar Dyfrig Evans 'Mae gen i angel' ar 'Noson Lawen 'Dolig Rownd a Rownd'. Roedd Dyfrig yn un o'r actorion cyntaf i ymddangos ar y gyfres nôl ym 1995.
Elain Llwyd a Meilir Rhys sy'n rhannu eu profiadau wrth geisio plesio pawb tra'n coginio'r cinio Nadolig!
Y bois o'r gyfres boblogaidd 'Rownd a Rownd' sy'n hawlio'r llwyfan ac yn dymuno 'Nadolig llawen a blwyddyn newydd dda' i gynulleidfa wresog y Noson Lawen.
Gyda chymorth band y Noson Lawen, Manw Robin sy'n rhoi perfformiad gwefreiddiol o'r gân hyfryd 'Angel' ar 'Noson Lawen 'Dolig Rownd a Rownd'
Bryn Fôn a'r band sy'n canu am hanes 'Strydoedd Aberstalwm' - un o anthemau mawr y diweddar Alun 'Sbardun' Huws mewn noson arbennig i gofio am ei gyfraniad i ddiwylliant Cymreig.
Mewn rhaglen arbennig o'r Noson Lawen i ddathlu talent aruthrol Alun 'Sbardun' Huws fel cyfansoddwr, Pedair sy'n rhoi eu dehongliad nhw o un o ganeuon serch gorau Sbardun, 'Neb yn cymharu'.
Lleucu Gwawr sy'n canu am hanes y Coliseum ym Mhorthmadog mewn noson arbennig i gofio am gyfraniad y diweddar Alun 'Sbardun' Huws.
Mewn rhaglen arbennig i gofio am Alun 'Sbardun' Huws, Elidyr Glyn sy'n canu ei fersiwn hyfryd o o 'Coedwig ar dân' gyda chymorth Euron Jones ar un o hen offerynnau Sbardun ei hun.
Linda Griffiths sy'n perfformio 'Fy nghân i ti' mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen i gofio ac i ddathlu talent anhygoel y diweddar Alun 'Sbardun' Huws.
Perfformiad teimladwy Bryn Fôn a'r band o gân Alun 'Sbardun' Huws, 'Dawnsio ar y dibyn'.
Parti'r Eifl sy'n canu'n iach i dre' Porthmadog ar lwyfan y Noson Lawen mewn rhaglen arbennig i gofio am dalent y diweddar Alun 'Sbardun' Huws.
Pedair sy'n perfformio eu fersiwn hudolus nhw o 'Cwsg Osian' o'r opera roc 'Nia Ben Aur' mewn noson arbennig i gofio am y diweddar Alun 'Sbardun' Huws.
Mewn noson arbennig i gofio am gyfraniad Alun 'Sbardun' Huws, Elidyr Glyn sy'n perfformio 'Hiraeth am y glaw'. Dyma gân allan o'r ffilm 'Llythyrau Ellis Williams' - ffilm gafodd ei hysgrifennu, ei chyfarwyddo a'i chynhyrchu gan Sbardun.
Cynulleidfa o'r Gorllewin sy'n mwynhau Trystan Llŷr Griffiths yn hoelio un o'r hen ganiadau, 'Paradwys y Bardd' ar lwyfan y Noson Lawen.
Jessica Robinson a Trystan Llŷr Griffiths sy'n taro'r nodau uchel i gloi Noson Lawen y Gorllewin gyda'u dehongliad o 'Non Ti Scordar Di Me', cân anfarwolwyd gan Luciano Pavarotti.
Mari Mathias ac Owen Shiers (Cynefin) sy'n rhoi perfformiad o'r galon o'r hen alaw werin 'Tra Bo Dau' i gynulleidfa wresog y Noson Lawen.
'Caneuon Canu Gwlad' sy'n mynd â bryd y Welsh Whisperer ar lwyfan y Noson Lawen.
Côr Ysgol y Strade, dan arweinid Christopher Davies sy'n perfformio 'Gwlith ar Galon Wag' – cân gyd-gyfansoddwyd gan Ieuan Rhys a Fiona Bennett.
Mari Mathias a'i band sy'n ymuno â band y Noson Lawen i berfformio ei chân wreiddiol 'Amddifadedd'.
Y soprano Jessica Robinson sy'n clodfori rhyddid a bywyd y sipsi fach yn y gân 'Hei Ho' gan Crwys a Haydn Morris.
Owen Shiers (Cynefin) sy'n perfformio 'Y Deryn Du', alaw werin sy'n dilyn yr hen draddodiad o ganu llatai, lle mae'r bardd yn gofyn i'r aderyn anfon neges serch at ei gariad.
Y band o'r Gorllewin, Mattoidz sy'n perfformio cân newydd o'r new 'Blodeuo' ar lwyfan y Noson Lawen.
Jacob Elwy a'i chwaer Mali sy'n rhoi perfformiad o'r galon o'r gân Cysga'n Dawel; cân gyfansoddwyd yn wreiddiol gan eu tad Bryn Hughes Williams.
Cyn enillydd Cân i Gymru, Morgan Elwy sy'n perfformio 'Gwerthfawrogi Dy Wlad' gyda'i fand ar lwyfan Noson Lawen Sir Ddinbych.
Gwenan Mars-Lloyd sy'n perfformio 'Gadael' - cân gafodd ei chyfansoddi gan Eirwyn Edwards.
Criw talentog Welsh of the West End sy'n perfformio 'Mae Ddoe Wedi Mynd', cân allan o sioe gerdd Irmenio gan Robat Arwyn.