Mewn rhaglen arbennig i ddathlu penblwydd Edward H Dafis yn 50 oed, Gwilym Bowen Rhys a Mari Mathias sy'n perfformio eu trefniant hudolus nhw o 'Tir Glas'.
Gyda chymorth band y Noson Lawen ac Aelwyd y Waun Ddyfal, Cleif Harpwood a Hefin Elis, dau o aelodau Edward H Dafis sy'n dychwelyd i'r llwyfan i berfformio 'Cân yn ofer' mewn rhaglen arbennig i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu'r band.
Mewn rhaglen arbennig sy'n dathlu 50 mlynedd ers i Edward H Dafis ffurfio, Lowri Evans sy'n perfformio clasur o faled sef 'Neb ar ôl'.
Mewn dathliad arbennig i nodi 50 mlynedd ers ffurfio Edward H Dafis, Lisa Angharad a Rhys Gwynfor sy'n perfformio 'Ti' ar lwyfan y Noson Lawen.
Mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu'r grŵp Edward H Dafis, Mari Mathias sy'n perfformio ei fersiwn hi o 'Mistar Duw' gyda band y rhaglen a Greta Siôn Roberts ar y delyn.
Mei Gwynedd sy'n perfformio un o ganeuon mwyaf poblogaidd Edward H Dafis sef 'Pishyn' mewn dathliad arbennig i nodi penblwydd y band yn 50 oed.
Sam Ebenezer gyda'i ddehongliad o 'Ar y ffordd' gan Edward H Dafis fel rhan o raglen arbennig i ddathlu sefydlu'r grŵp poblogaidd 50 mlynedd yn ôl.
Plu sy'n perfformio trefniant acwstig hyfryd o 'Tyrd i edrych' - un o ganeuon poblogaidd Edward H Dafis mewn rhaglen i ddathlu penblwydd y band yn 50 oed.
Pwdin Reis, y band o Orllewin Cymru sy'n rhoi eu stamp 'rockabilly' nhw ar 'Breuddwyd roc a rôl' mewn pennod arbennig i ddathlu 50 mlynedd ers sefydlu'r band poblogaidd, Edward H Dafis.