Y grŵp gwerin o ardal Wrecsam, The Trials of Cato sy'n perfformio eu cân wreiddiol, 'Haf' ar lwyfan Noson Lawen Bryniau Clwyd.
Siôn Eilir ac Elis Jones sy'n perfformio'r ddeuawd enwog, 'Y Pysgotwyr Perl' gan Georges Bizet.
Gyda chymorth band y Noson Lawen, Gruff Roberts ar y drymiau a Berwyn Jones ar y trwmped, y ddau frawd o Lansannan, Morgan a Jacob Elwy sy'n perfformio 'Zion'.
Megan Lee, y gantores a'r gyfansoddwraig ifanc o Goedpoeth ger Wrecsam sy'n perfformio ei chân wreiddiol 'Y nawr' gyda band y Noson Lawen.
Y canwr, actor a'r cyfarwyddwr o Rosllannerchrugog, Daniel Lloyd sydd nôl ar lwyfan y Noson Lawen i berfformio 'Tro ar fyd'.
Côr Aelwyd Dyffryn Clwyd sy'n troedio llwyfan y Noson Lawen i berfformio 'Hiraeth yr hwyrnos' gan Alwyn Humphreys.
The Trials of Cato sy'n perfformio geiriau Cynan y bardd am un o bentrefi mwyaf swynol Pen Llŷn sef 'Aberdaron'.
Rebecca Trehearn sy'n ymuno gyda Daniel Lloyd i gyd-ganu 'Werth y byd' ar lwyfan Noson Lawen Bryniau Clwyd.