Criw bach sy'n aelodau o fand pres y Cory sy'n perfformio medli o 'Mae hen wlad fy nhadau', 'Calon lan', 'Aberystwyth' a 'Gwŷr Harlech' ar Noson Lawen Rhondda Cynon Taf.
Kieran Bailey, yr actor, y cerddor, a'r cyfansoddwr sy'n perfformio ei gân wreiddiol, 'Un nos' ar lwyfan Noson Lawen Rhondda Cynon Taf.
Sara Rees-Roberts, y gantores a'r gyfansoddwraig ifanc o Donyrefail sy'n perfformio ei chân wreiddiol 'Gwella' fel rhan o Noson Lawen Rhondda Cynon Taf.
Lloyd Macey, y canwr o'r Rhondda sy'n troedio llwyfan y Noson Lawen i berfformio cân newydd o'r enw 'Wyt ti'n fy ngharu?'
Seren Haf MacMillan a Taylah James sy'n canu trefniant hyfryd o 'Yn dy gwmni di' gan Robat Arwyn i gynulleidfa Noson Lawen Rhondda Cynon Taf.
Cat Southall sy'n perfformio 'Ti sydd ar fai' - cân oddi ar ei halbwm newydd ar lwyfan Noson Lawen Rhondda Cynon Taf.
Gyda chymorth Lloyd Pearce a Tom Evans ar yr offerynnau pres, band y Noson Lawen a Chôr Aelwyd Cwm Rhondda, Lloyd Macey sy'n perfformio trefniant o un o emynau mwyaf poblogaidd ein gwlad, 'Cwm Rhondda'.