Jacob Elwy a'i chwaer Mali sy'n rhoi perfformiad o'r galon o'r gân Cysga'n Dawel; cân gyfansoddwyd yn wreiddiol gan eu tad Bryn Hughes Williams.
Criw dawnus Welsh of the West End sy'n rhoi perfformiad egniol o Eryr Pengwern, yr anthem fawr allan o sioe gerdd Heledd.
Disgyblion Ysgol Brynhyfryd sy'n rhoi perfformiad bywiog o glasur Caryl Parry Jones 'Yn y Dechreuad' i gynulleidfa Noson Lawen Sir Ddinbych.
Mared Williams sy'n ymuno â Morgan Elwy a'r band i berfformio 'Aros i Weld' ar lwyfan Noson Lawen Sir Ddinbych.
Yn canu'r glasur 'Benedictus' gan Robat Arwyn, Rhys Meirion a Steffan Hughes sy'n perfformio deuawd gyda'i gilydd am y tro cyntaf ar lwyfan y Noson Lawen.
Tudur Wyn sy'n perfformio cân wreiddiol, 'Dyddiau Da' gyda band y Noson Lawen.
Criw talentog Welsh of the West End sy'n perfformio 'Mae Ddoe Wedi Mynd', cân allan o sioe gerdd Irmenio gan Robat Arwyn.
Gwenan Mars-Lloyd sy'n perfformio 'Gadael' - cân gafodd ei chyfansoddi gan Eirwyn Edwards.
Cyn enillydd Cân i Gymru, Morgan Elwy sy'n perfformio 'Gwerthfawrogi Dy Wlad' gyda'i fand ar lwyfan Noson Lawen Sir Ddinbych.