Mewn noson arbennig i gofio am gyfraniad Alun 'Sbardun' Huws, Elidyr Glyn sy'n perfformio 'Hiraeth am y glaw'. Dyma gân allan o'r ffilm 'Llythyrau Ellis Williams' - ffilm gafodd ei hysgrifennu, ei chyfarwyddo a'i chynhyrchu gan Sbardun.
Pedair sy'n perfformio eu fersiwn hudolus nhw o 'Cwsg Osian' o'r opera roc 'Nia Ben Aur' mewn noson arbennig i gofio am y diweddar Alun 'Sbardun' Huws.
Parti'r Eifl sy'n canu'n iach i dre' Porthmadog ar lwyfan y Noson Lawen mewn rhaglen arbennig i gofio am dalent y diweddar Alun 'Sbardun' Huws.
Perfformiad teimladwy Bryn Fôn a'r band o gân Alun 'Sbardun' Huws, 'Dawnsio ar y dibyn'.
Linda Griffiths sy'n perfformio 'Fy nghân i ti' mewn pennod arbennig o'r Noson Lawen i gofio ac i ddathlu talent anhygoel y diweddar Alun 'Sbardun' Huws.
Mewn rhaglen arbennig i gofio am Alun 'Sbardun' Huws, Elidyr Glyn sy'n canu ei fersiwn hyfryd o o 'Coedwig ar dân' gyda chymorth Euron Jones ar un o hen offerynnau Sbardun ei hun.
Lleucu Gwawr sy'n canu am hanes y Coliseum ym Mhorthmadog mewn noson arbennig i gofio am gyfraniad y diweddar Alun 'Sbardun' Huws.
Mewn rhaglen arbennig o'r Noson Lawen i ddathlu talent aruthrol Alun 'Sbardun' Huws fel cyfansoddwr, Pedair sy'n rhoi eu dehongliad nhw o un o ganeuon serch gorau Sbardun, 'Neb yn cymharu'.
Bryn Fôn a'r band sy'n canu am hanes 'Strydoedd Aberstalwm' - un o anthemau mawr y diweddar Alun 'Sbardun' Huws mewn noson arbennig i gofio am ei gyfraniad i ddiwylliant Cymreig.