Mewn rhaglen arbennig i ddathlu pen-blwydd y ddeuawd Tony ac Aloma, Aeron Pughe sy'n perfformio un o'u caneuon gyda band y Noson Lawen - 'Un freuddwyd fach ar ôl'.
Dylan Morris sy'n perfformio 'Aros y nos' ar lwyfan y Noson Lawen mewn rhaglen deyrnged i Tony ac Aloma.
Mewn Noson Lawen arbennig i Tony ac Aloma, Côr Aelwyd yr Ynys sy'n perfformio 'Diolch i ti', cân o ddiolch gyfansoddwyd gan Tony Jones.
Roy James sy'n ymuno â Ffion Emyr a band Noson Lawen i berfformio 'Geiriau' – cân arall o waith Tony Jones.
Aeron Pughe a Catrin Angharad gyda pherfformiad ysgafn o rai o ganeuon hwyliog Tony ac Aloma – 'Dim ond ti a mi', 'Caffi Gaerwen', 'Tri mochyn bach' a 'Mae gen i gariad'.
Ffion Emyr a Rhys Meirion sy'n rhoi perfformiad ysgafn o un o ddeuawdau mwyaf poblogaidd Tony ac Aloma ar Noson Lawen arbennig i chwedeg mlynedd.
I gloi rhaglen Noson Lawen Tony ac Aloma, Dylan Morris, Catrin Angharad a Hogia' Llanbobman sy'n rhoi perfformiad egniol o ddwy o anthemau mawr y ddeuawd
Wil Tân a Ceri sy'n rhoi eu dehongliad hwy o un o glasuron Tony ac Aloma, 'Cofion gorau' ar lwyfan y Noson Lawen.
Yn canu un o glasuron y cyfnod, 'Wedi colli rhywun sy'n annwyl', Rhys Meirion sy'n perfformio un o ganeuon enwocaf Tony Jones ar Noson Lawen Tony ac Aloma.