Synau cyfoes ar Noson Lawen ym mherfformiad Swnami o 'Gwenwyn'.
Blas y pridd a'r plygain yn natganiad Meibion Llywarch o Benllyn o'r garol 'Tramwywn Ar Gyflym Adenydd'.
Llond llwyfan o blant yn canu'n angerddol ym mherfformiad Côr Plant Penllyn o'r garol 'Ffynnon Ffydd'.
Swnami, un o'r prif fandiau Cymraeg yn perfformio 'Trwmgwsg' ar Noson Lawen
Ymuna Côr Plant Penllyn ag Elin Fflur a Daniel Lloyd i gloi Noson Lawen Nadolig 2016.
Triawd Nantclwyd yn canu am wir ystyr y Nadolig gyda chlasur y diweddar Gilmour Griffiths – 'Hwn Yw Fy Mhlentyn I'
Cydgordio mentrus gan Ensemble Y Waun Ddyfal wrth iddynt ddod â naws y Nadolig i'r Noson Lawen.
Elin Fflur â datganiad sensitif o'r gân 'Seren Wen'
Daniel Lloyd yn perfformio'i gân 'Rhagfyr o Hyd' mewn rhifyn Nadoligaidd o Noson Lawen
Ffrindiau – pedwarawd o Ogledd Sir Benfro mewn harmoni pur gyda'r gân gellweirus 'Hei Ti'n Cwl'.
Andrew Rees yn canu cân serch o Awstria gan y cyfansoddwr Richard Tauber, 'Die Bist Die Welt Fuer Mich' ar Noson Lawen.
Lowri Evans yn perfformio cân newydd, 'Dyddiau Tywyll Du', mewn Noson Lawen wedi ei recordio yn Theatr Mwldan, Aberteifi.
Tecwyn Ifan yn perfformio'i gân 'Dewines Endor' ar lwyfan y Noson Lawen.
Tecwyn Ifan yn dwyn i gof y gwrthryfel yn erbyn y tollau ar y ffyrdd tyrpeg yn y gân 'Ysbryd Rebeca'.
Lowri Evans, y gantores boblogaidd o Drefdraeth yn perfformio un o'i ffefrynnau 'Merch y Myny'.
'Heddiw, Ddoe, Yfory' gan Robat Arwyn yw teitl y gerddoriaeth a berfformir gan Harmo-NI – côr o ardal Maenclochog yn Sir Benfro ar Noson Lawen.
Andrew Rees a Joe Appleby yn perfformio un o ffefrynnau'r Cymry, 'Ysbryd y Nos'.
Rhys Meirion a pherfformiad o gân Tosti L'alba separa dalla luce l'ombra' sy'n son am doriad y wawr a'r ser yn diffodd.
Sioncrwydd cerddorol gyda Gwyn Owen yn ei berfformiad o 'Virtuosity'
Magi Tudur a pherfformiad o'i chyfansoddiad Lôn Bost oddi ar ei EP cyntaf.
Jonathan Davies yn perfformio un o'i ganeuon ei hun, Coda ar dy Draed ar Noson Lawen
Perfformiad Gwen Elin o Rwy'n Dy Weld yn Sefyll, cerddoriaeth Linda Gittins, Penri Roberts a Derec Williams gyda geiriau Ann Griffiths yr emynyddes o Ddolwar Fach.
Côr Meibion y Penrhyn yn perfformio trefniant eu harweinydd Owain Arwel Davies o'r emyn Pererin Wyf ar yr alaw House of the Rising Sun i gyfeiliant band Noson Lawen a Gwyn Owen ar y trwmped
Perfformiad pwerus o Anthem (Chess) gan Gôr Meibion y Penrhyn, Rhys Meirion a Gwyn Owen
Ymuna Gwen Elin a Jonathan Davies i ganu'r ddeuawd ramantus Rhywbeth Syml
Ymuna Côr Unedig Clybiau Rygbi De Cymru gyda Rhydian Roberts a Katy Treharne mewn perfformiad sensitif a phwerus o 'Dyrchefir Fi'
Trystan Llyr a Gwydion Griffiths yn canu trefniant Jeff Howard o emyn gwladarol Saunders Lewis 'Dros Gymru'n Gwlad' ar gerddoriaeth Sibelius
Perfformiad o 'Nant y Mynydd a 'Bachgen Bach o Dincer' gan Olion Byw, deuawd gwerin, ar lwyfan y Noson Lawen yn y Brifwyl yn Y Fenni 2016
Ymuna'r holl artistiaid a fu'n rhan o'r Noson Lawen ym mhafiliwn Eisteddfod Genedlaethol Sir Fynwy a'r Cyffiniau 2016 i gloi'r noson mewn perfformiad angerddol o 'Byd Yn Un'
Trystan Llyr a Gwydion Griffiths yn dwyn ar gof atgofion am y diweddar Ryan a Ronnie gyda'u perfformiad o 'Blodwen a Meri' ac 'Yn Y Bore'