S4C
Dewisiadau

Cynnwys


  • 1.Mae'r canlynol yn delerau ac amodau ar gyfer cystadlaethau sy'n cael eu rhedeg gan raglen dyddiol Tinopolis Prynhawn Da. Trwy gymryd rhan yn unrhyw un o'r cystadlaethau hyn rydych chi'n cytuno i gael eich rhwymo gan yr holl Delerau perthnasol.
  • 2.Os ceir gwahaniaethau rhwng Telerau Cystadlaethau Cyffredinol Tinopolis a Hysbysiad y Gystadleuaeth, telerau Hysbysiad y Gystadleuaeth fydd yn cael blaenoriaeth
  • 3.Oni nodir fel arall yn Hysbysiad y Gystadleuaeth, mae Cystadlaethau'n cael eu threfnu a'u hyrwyddo gan Prynhawn Da raglen Tinopolis, Park Street, Llanelli, SA15 3YE ("Tinopolis") - unrhyw ymholiadau neu gwynion am y Gystadlaethau dylid cyfeirio at Tinopolis ar y cyfeiriad uchod.
  • 4.Cynhelir y gystadleuaeth 'Hamper a Hosan' bob dydd Llun, Mercher a Gwener ar raglen Prynhawn Da rhwng 2 Rhagfyr 2024 a'r 23ain o Ragfyr 2024.
  • 5.Bydd y gystadleuaeth yn agor am 2pm ar ddiwrnod y rhaglen, ac yn cau am 2.30pm yr un prynhawn. Mae mynediad dros y ffôn gan ddefnyddio'r rhif gystadleuaeth 08443 351897 ac mae'n ofynnol i gystadleuwyr adael eu henw a'u rhif ffôn cyswllt.
  • 6.Bydd y cystadleuwyr buddugol yn cael eu dewis ar hap a'u galw'n ôl gan gynrychiolydd o Tinopolis tra bo'r rhaglen yn fyw ar yr awyr.
  • 7.Bydd y cystadleuydd buddugol yn ennill hamper Nadolig a ddewiswyd gan Tinopolis yn awtomatig. Byddant yn cael y cyfle pellach i ennill ail wobr drwy ateb cwestiwn ar yr awyr a dewis un o ddeg hosan Nadolig wedi'u rhifo a ddangosir ar y sgrin. Bydd y gwobrau hyn yn amrywio o ran gwerth a all gynnwys gwobr ariannol o ddim mwy na £100.
  • 8.Ni ellir cyfnewid na throsglwyddo gwobrau ac nid oes dewis arall o arian parod. Mae Tinopolis yn cadw'r hawl i newid y wobr neu unrhyw ran ohoni am wobr o werth ariannol cyfatebol neu fwy ac mae penderfyniad Tinopolis yn hyn o beth yn derfynol.
  • 9.Mae Tinopolis yn cadw'r hawl i newid neu ddiwygio Cystadlaethau neu'r Telerau (gan gynnwys gofynion cymhwysedd) yn ôl ei disgresiwn ei hun gyda neu heb rybudd ymlaen llaw
  • (i)yn achos unrhyw ddigwyddiad sydd y tu hwnt i reolaeth resymol Tinopolis
  • (ii)i sicrhau bod Cystadlaethau'n cael eu cynnal yn deg a
  • (iii)i sicrhau cydymffurfiaeth â'r deddfau, y rheoliadau a'r canllawiau perthnasol.

Rhoddir gwybod am unrhyw ddiddymiad neu newidiadau yn Hysbysiad y Gystadleuaeth berthnasol.

  • 10.Yn achos unrhyw anghydfod ynghylch y Telerau, y wobr, y canlyniad neu unrhyw fater arall yn ymwneud â'r cystadleuaeth, bydd penderfyniad Tinopolis yn derfynol ac ni fyddwn yn ymgymryd ag unrhyw ohebiaeth.
  • 11.Oni nodir fel arall yn Hysbysiad y Gystadleuaeth, mae'r cystadlaethau yn agored i holl drigolion y DU sy'n 18 oed neu'n hŷn, ac eithrio gweithwyr Tinopolis, unrhyw un o is-gwmnïau Tinopolis, S4C, Pawb Ltd a Spoke Interactive Ltd ac unrhyw unigolion a chwmnïau eraill sy'n ymwneud yn uniongyrchol â'r Gystadleuaeth a'u teuluoedd agos.
  • 12.Gellir amlinellu gofynion cymhwysedd ychwanegol yn Hysbysiad y Gystadleuaeth.

13. Drwy gymryd rhan mewn Cystadleuaeth rydych yn cytuno, yn cadarnhau ac yn gwarantu:

  • a)bod yr holl wybodaeth a ddarperir gennych i Tinopolis yn gywir, wedi'i diweddaru ac yn gyflawn, a'ch bod yn bodloni'r holl feini prawf cymhwysedd ar gyfer y Gystadleuaeth;

b)os enillwch y Gystadleuaeth, bod Tinopolis a S4C yn gallu defnyddio eich enw a'ch llun at ddibenion cyhoeddusrwydd;

c)y gall Tinopolis a S4C (ac unrhyw drydydd parti a awdurdodir gan Tinopolis a S4C) ddefnyddio'r cais ledled ei Gwasanaethau ac ar unrhyw gyfrwng (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i wefannau trydydd parti, cyfryngau symudol, teledu a/neu radio). I'r diben hwn, rydych drwy hyn yn rhoi i Tinopolis a S4C (a thrydydd partïon a awdurdodir gan Tinopolis a S4C) drwydded anghyfyngedig, fyd-eang, ddiymdroi, ddi-freindal (am gyfnod llawn unrhyw hawliau yn y cais) yn y cais i ddefnyddio, arddangos, cyhoeddi, trosglwyddo, copïo, gwneud gweithiau deilliadol neu bodlediadau o, golygu, newid, storio, ailfformatio, defnyddio yn rhan o unrhyw ymgyrch hysbysebu neu noddi, gwerthu ac isdrwyddedu y cais;

d)bod eich cais ac unrhyw wybodaeth a gyflwynir gennych yn bersonol i chi.

  • 14.Mae Tinopolis yn cadw'r hawl i wirio cymhwysedd pob ymgeisydd i gymryd rhan mewn Cystadleuaeth, gan gynnwys yr hawl i ofyn am brawf ysgrifenedig o oedran yr enillydd. Gall Tinopolis wahardd ymgeisydd sy'n gwrthod neu nad ydyw'n darparu gwybodaeth o'r fath pan ofynnir amdani a gall wahardd unrhyw ymgeisydd os oes ganddi sail resymol dros gredu bod yr ymgeisydd wedi torri unrhyw rai o'r Telerau.
  • 15.Pan fydd Cystadleuaeth ar agor i bob oedran, rhaid i unigolion dan 16 fod wedi cael caniatâd rhiant i gymryd rhan yn y Gystadleuaeth ac i dderbyn y wobr. Mae Tinopolis yn cadw'r hawl i wirio bod caniatâd o'r fath wedi'i roi cyn anfon y wobr at yr enillydd.
  • 16.Os bydd enillydd Cystadleuaeth wedi hynny'n cael ei wahardd o Gystadleuaeth am unrhyw reswm, gall Tinopolis, yn ôl ei disgresiwn ei hun, ddyfarnu'r wobr i un a ddaeth yn agos at y brig, wedi'i ddethol yn unol â meini prawf y Gystadleuaeth neu ail-gynnal y gystadleuaeth ar ddiwrnod arall.
  • 17.Dim ond unwaith y gallwch ymgeisio mewn Cystadleuaeth, oni nodir fel arall yn Hysbysiad y Gystadleuaeth. Pan fydd yn amlwg fod unigolyn wedi ymgeisio nifer o weithiau mewn Cystadleuaeth ac mai dim ond un cais a ganiateir dan y Telerau, dim ond un o geisiadau'r ymgeisydd a gaiff ei gyfrif yn y Gystadleuaeth.
  • 18.Pan fydd Tinopolis yn canfod neu fod ganddi sail resymol dros amau bod ymgeisydd wedi defnyddio unrhyw feddalwedd neu broses awtomataidd naill ai i ateb cwestiynau, gwneud cais i'r Gystadleuaeth neu wneud nifer fawr o geisiadau, gall Tinopolis eithrio ceisiadau o'r fath a gwahardd yr ymgeisydd o'r Gystadleuaeth.
  • 19.Rhaid derbyn yr holl geisiadau trwy gyfrwng y dull ymgeisio a nodir yn Hysbysiad y Gystadleuaeth. Ni fydd ceisiadau a gyflwynir drwy unrhyw ddull arall yn cael eu derbyn.
  • 20.Rhoddir manylion unrhyw gostau sy'n gysylltiedig â dulliau ymgeisio'r Gystadleuaeth yn Hysbysiad y Gystadleuaeth. Ni fydd costau cyffredinol cyswllt rhyngrwyd, postio a darparwr gwasanaeth teledu yn cael eu nodi yn Hysbysiad y Gystadleuaeth.
  • 21.Ni ellir derbyn prawf o bostio, galwad ffôn, postio ar y we nac e-bost fel prawf o ddanfon. Nid yw Tinopolis yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am unrhyw wall, hepgoriad, toriad, dilead, nam nac oedi yn unrhyw ddull cyfathrebu a ddefnyddiwyd gan ymgeiswyr, ceisiadau nad ydynt wedi'u derbyn cyn y dyddiad cau nac am ladrad, dinistriad, newid neu fynediad anawdurdodedig i geisiadau, neu geisiadau a gollwyd, a niweidiwyd neu a oedwyd yn sgil gweithrediadau gweinydd, materion technegol, feirws, nam cyfrifiadurol neu achosion eraill y tu hwnt i reolaeth Tinopolis.
  • 22.Os yw'r gystadleuaeth yn gofyn am fynediad trwy ffôn, cyhoeddir dyddiadau ac amseroedd agor a chau'r gystadleuaeth yn yr Hysbysiad Cystadleuaeth. Mae galwadau cystadlu yn costio 5c yn ychwanegol at eich costau rhwydwaith arferol a gellir dal i godi galwadau a wneir ar ôl i'r llinellau cystadlu gau.
  • 23.Bydd pob galwad a wneir yn cael ei reoli gan reolwyr llinell gystadleuaeth 3ydd parti Tinopolis 'sef PAWB Cyf a Spoke Interactive Ltd. Bydd Spoke Interactive yn casglu ac yn cofnodi'r holl rifau ffôn sy'n cystadlu yn y gystadleuaeth. Ar ôl i'r llinellau ffôn gau, bydd pum enillydd posib yn cael eu dewis ar hap o'r holl ymgeiswyr cymwys a atebodd gwestiwn y Gystadleuaeth yn gywir. Bydd y pum rhif ffôn ar hap 'yn cael eu lawrlwytho o borth cystadlu ar-lein Spoke Interactive (Coyote) gan PAWB Cyf a'u hanfon trwy e-bost yn uniongyrchol at Gynhyrchydd Cystadleuaeth Tinopolis.
  • 24.Bydd y cyntaf o'r pum ymgeisydd cywir yn cael eu galw yn y drefn y cawsant eu danfon i Tinopolis gan ein partner cystadleuaeth ffôn. Os atebir yr alwad ffôn gyntaf yn gywir a bod yr ymgeisydd yn cael ei gadarnhau yna nhw fydd enillydd y Gystadleuaeth a bydd manylion y pedwar galwr arall yn cael eu dinistrio. Os derbynnir tôn ymgysylltiedig neu os nad yw'r alwad wedi'i gosod yn gywir, byddwn yn ail-geisio gwneud yr alwad cyn symud ymlaen i'r rhif nesaf a gyflenwir. Os yw'r ail rif yn galw atebion yn gywir ac yn cael eu cadarnhau fel yr ymgeisydd, nhw fydd yr enillydd. Pe byddem eto'n derbyn tôn ymgysylltiedig neu os nad yw'r alwad wedi'i gosod yn gywir yna byddwn yn aildanio'r rhif hwn. Os na chaiff y rhif hwn ei ateb neu os na ellir cadarnhau'r ymgeisydd, yna bydd Tinopolis yn galw'r trydydd ymgeisydd a bydd y broses fel y'i disgrifir uchod yn cael ei hailadrodd nes i ni gyrraedd y pumed rhif a gyflenwir. Os atebir yr alwad olaf yn gywir a bod yr ymgeisydd yn cadarnhau mai nhw fydd enillydd y Gystadleuaeth. Os na chaiff pob un o'r pum galwad eu hateb neu os na ellir cadarnhau unrhyw un o'r cystadleuwyr, yna ni fydd enillydd y gystadleuaeth a chanslir y Gystadleuaeth ar y diwrnod hwnnw.
  • 25.Nid yw Tinopolis yn derbyn cyfrifoldeb am ddiogelu na dychwelyd unrhyw geisiadau. Dylech sicrhau eich bod yn cadw copi o'ch cais ar gyfer eich cofnodion eich hun.
  • 26.Bydd enillwyr gwobrau yn cael eu hysbysu gan ddefnyddio'r dull ac o fewn yr amser a nodwyd yn Hysbysiad y Gystadleuaeth.
  • 27.Bydd Tinopolis yn trefnu gyda'r enillydd i'r enillydd dderbyn y wobr. Fel rheol, anfonir gwobrau trwy'r post. Bydd prawf o bostio gan Tinopolis yn gyfystyr â phrawf o ddanfon.
  • 28.Os na ellir gwneud trefniadau i ddanfon neu gasglu'r wobr wedi ymdrechion rhesymol gan Tinopolis i wneud hynny, mae gan Tinopolis yr hawl i roi'r wobr i un ddaeth yn agos at y brig neu i ddefnyddio'r wobr mewn unrhyw hyrwyddiad yn y dyfodol yn ôl ei disgresiwn absoliwt ei hun.
  • 29.Mae Tinopolis yn cadw'r hawl i gyhoeddi enw'r enillydd a'r sir y mae'n byw ynddi ar wefan Tinopolis a S4C am 21 diwrnod. Bydd yr wybodaeth hon hefyd ar gael yn dilyn y dyddiad cau drwy ffonio Tinopolis ar 01554 880880 (ni fydd galwadau'n costio mwy na chost galwad ar y gyfradd genedlaethol i rif 01 neu 02) neu drwy ysgrifennu at Tinopolis, Stryd y Parc, Llanelli, Sir Gar, SA15 3YE, gan nodi'r Gystadleuaeth yr ydych yn holi yn ei chylch a chynnwys amlen â'ch cyfeiriad a stamp arni.
  • 30.Pan fyddwch yn darparu cyfeiriad gyda'ch cais i Gystadleuaeth, defnyddir y cyfeiriad hwnnw i anfon unrhyw wobr iddo.
  • 31.Yr enillydd yn unig sy'n gyfrifol am yr holl drethi, yswiriant, trefniadau teithio, arian gwario ac unrhyw gostau a threuliau eraill (gan gynnwys bwyd a threuliau personol), oni nodir fel arall yn Hysbysiad y Gystadleuaeth.
  • 32.Nid yw Tinopolis, oni nodir yn Hysbysiad y Gystadleuaeth, yn hawlio unrhyw hawliau perchnogaeth ar eich cais. O'r herwydd, rydych yn cadw perchnogaeth o'ch cais a gallwch ei ddefnyddio fel y mynnwch. Bydd Tinopolis yn gallu defnyddio eich cais fel yr amlinellir yn Hysbysiad y Gystadleuaeth. Os yw Tinopolis yn bwriadu cymryd perchnogaeth o'ch cais, manylir ynghylch hyn yn Hysbysiad y Gystadleuaeth a gallwch benderfynu wedyn a ydych am wneud cais i'r Gystadleuaeth ai peidio.
  • 33.Nid yw Tinopolis yn gwarantu defnyddio unrhyw gais. Gall Tinopolis hefyd, dan amgylchiadau addas, ac yn ôl ei disgresiwn ei hun, wrthod, golygu, dileu neu analluogi mynediad i geisiadau y mae'n ystyried eu bod, o bosibl, yn broblematig yn gyfreithiol neu fel arall.
  • 34.Mae Tinopolis yn eithrio unrhyw atebolrwydd i'r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith am unrhyw golled, difrod, anaf neu siom a ddioddefir gan unrhyw ymgeisydd yn sgil ei gais/chais ar gyfer y Gystadleuaeth, neu a ddaw i ran yr enillydd yn sgil y ffaith ei fod/ei bod wedi derbyn y wobr.
  • 35.Nid yw Tinopolis yn gyfrifol am unrhyw faterion technegol yn ymwneud ag unrhyw rwydwaith telegyfathrebu neu ryngrwyd (gan gynnwys mewn perthynas â chyflymder neu led band), gan gynnwys unrhyw anaf neu ddifrod i ddyfais ymgeisydd neu ddyfais unrhyw berson arall yn ymwneud â neu yn sgil cymryd rhan neu lawrlwytho unrhyw ddeunydd mewn Cystadleuaeth.
  • 36.Lle cynhelir cystadlaethau gan Tinopolis neu S4C trwy ddefnyddio Facebook a/neu Instagram, mae ymgeiswyr yn cydnabod nad yw'r gystadleuaeth wedi ei noddi, hardystio neu ei gweinyddu gan neu'n gysylltiedig â Facebook a/neu Instagram mewn unrhyw ffordd ac mae ymgeiswyr yn cadarnhau eu bod yn rhyddhau Facebook a/neu Instagram rhag unrhyw atebolrwydd sy'n codi mewn cysylltiad â nhw'n cymryd rhan yn y gystadleuaeth.
  • 37.Fel rhan o gystadlu yn y gystadleuaeth hon rydych yn deall y byddwn yn casglu, yn dal ac yn prosesu gwybodaeth bersonol yn ymwneud â chi a'ch cyfraniad cystadleuaeth, yn unol â'n hysbysiad preifatrwydd fel y nodir yma http://www.tinopolis.com/privacy-notice /. Yn dibynnu ar natur y gystadleuaeth, gall hyn gynnwys data personol sensitif. Byddwn yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol at ddibenion gweinyddu, yswiriant a rheolaeth y gystadleuaeth, ac i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol i gadw rhai cofnodion. Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol i gynnal gwiriadau cefndir rhesymol (eto yn dibynnu ar natur y gystadleuaeth) i gydymffurfio â'n cyfrifoldebau rheoliadol a gwirio'r wybodaeth rydych chi'n ei darparu i ni.
  • 38.Byddwn yn prosesu eich gwybodaeth bersonol er mwyn cyflawni ein rhwymedigaethau cytundebol i chi fel cystadleuydd, i gydymffurfio â'n rhwymedigaethau cyfreithiol a lle mae'n angenrheidiol er ein budd cyfreithlon i wneud hynny. Mae ein diddordebau cyfreithlon yn cynnwys sicrhau bod yr holl gyfraniadau cystadleuaeth yn addas ar gyfer y Rhaglen a bod y Rhaglen yn cwrdd â'n safonau ac yn cydymffurfio â'n holl rwymedigaethau cyfreithiol.
  • 39.Efallai y byddwn yn sicrhau bod eich gwybodaeth ar gael i'n cynghorwyr, aseiniaid, trwyddedeion, awdurdodau rheoleiddio, partner darlledu ac eraill fel sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith. Efallai y byddwn yn trosglwyddo eich gwybodaeth bersonol y tu allan i'r Ardal Economaidd Ewropeaidd lle mae'n angenrheidiol i ni wneud hynny. Os bydd eich manylion personol yn newid yn ystod y gystadleuaeth ar unrhyw adeg, cysylltwch â ni fel y gallwn ddiweddaru eich cofnodion.
  • 40.Mae telerau ac amodau llawn ar gyfer cystadlaethau S4C ar gael yn http://www.s4c.cymru/cy/about-this-site/page/16772... yn ogystal â mwy o wybodaeth am sut rydyn ni'n defnyddio'ch mae gwybodaeth bersonol wedi'i chynnwys yn ein hysbysiad preifatrwydd yn http://www.tinopolis.com/privacy-notice/.
  • 41.Mae pob Cystadleuaeth a'r Telerau yn ddarostyngedig i gyfreithiau Cymru a Lloegr a bydd unrhyw anghydfodau yn ddarostyngedig i awdurdodaeth unigryw llysoedd Cymru a Lloegr.
Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?