Yn enedigol o Lundain, mae Leah wedi bod yn coginio ers ei bod yn 10 mlwydd oed - yn 'neud bwyd i'w theulu pan oedd ei mam yn gweithio'n hwyr fel nyrs. Erbyn hyn mae'r feganwraig yn creu pob math o wahanol fwydydd, o gacennau priodas anhygoel i'r cyri roedd ei thad Indiaidd yn arfer gwneud iddi hi a'i 8 brawd a chwaer tra'n blant (Leah yw'r ferch canol!).
Mae hi'n caru coginio efo sbeisys, arbrofi gyda bagels a croissants, ac ailgreu ryseitiau arferol mewn ffyrdd newydd: 'Dwi wrth fy modd yn dangos i bobl pa mor anhygoel y gall bwyd fegan fod!' Yn fam i Ruby, 20 - cantores/cyfansoddwr sydd hefyd yn gweithio mewn caffi lleol - mae Leah yn cadw'n brysur rhwng ei swydd llawn amser, gwaith pobi, rhedeg, a mynd i gerdded gyda'i chi, Bea. Agorodd gaffi yn Llanberis yn 2017, Mafon, y mae newydd ei werthu i'w ffrind.
'Fy nghamp mwyaf mewn bywyd yw magu dynas mor gryf ac anhygoel yn Ruby. O ran gwaith, dwi'n fwyaf balch o Mafon; wnaethon ni greu gofod 'biwtiffwl' a hyb go iawn i'r gymuned leol, felly oedd pasio'r awenau 'mlaen yn emosiynol ond yn gyffrous - ac yn ryddhad! Bydd fy nhaith bwyd byth yn gorffen, dim ond parhau i esblygu.'
Ffeithiau difyr: Ei breuddwyd fyddai cael ffermdy un diwrnod gyda 'pods' bach i bobl gael aros ynddynt. 'Byswn i wrth fy modd efo ysgubor mawr ac yn bwydo brecwast a chinio i bawb. Ond dim ond anifeiliaid anwes fyddai ar fy fferm i gan fy mod i'n fegan!'
'Dream Dinner Guest': Shakespeare!