Dechreuodd Megan bobi 'go iawn' yn ystod y cyfnod clo cyntaf mewn ymgais i godi arian ar gyfer yr RNLI yn ei hardal leol (mae hi'n gwirfoddoli efo bâd achub Bae Trearddur - yr unig hogan yn y criw!).
Yn ôl Megan, a oedd yn mynd trwy cyfnod seibiant o'i swydd ran-amser mewn bwyty lleol ar y pryd, roedd hyn yn ffordd dda o lenwi ei hamser ac, yn bwysicach fyth, 'o roi rhywbeth nôl i'r gymuned'. Casglodd £300 o fewn 'chydig fisoedd ac, yn y cyfnod a ddilynodd, agorodd siop gacennau fach yng Nghaergybi. Erbyn hyn mae hi'n mwynhau pobi bron bob dydd!
Mae Megan yn caru trio bwydydd newydd, gan gynnwys 'lefse' melys a flasodd am y tro gyntaf yn Norwy; 'fatha crempog cinnamon - yum!'. Cyn derbyn y galwad i fod yn rhan o'r Academi, dywedodd Megan: 'Buasai'n gwireddu breuddwyd cael dysgu sgiliau newydd, yn enwedig sgiliau patisserie gyda Richard Holt ei hun - ac ar raglen Gymraeg, gan fy mod yn meddwl ei fod mor bwysig cadw'r iaith yn fyw.'
Ffeithiau difyr: Ar un achlysur, pobodd Megan gacen i Craig David! Er yr hoffai fod yn 'millionaire' neu ymddeol yn gynnar ('a girl can dream'), pe gallai'r pobydd ifanc 'wneud unrhyw swydd yn y byd, byddai'n dewis bod yn fiolegydd morol.
'Dream Dinner Guest': Meryl Streep!