Ymchwil i fewn i Cynulleidfaoedd Byddar/Trwm eu Clyw
Mae S4C, mewn partneriaeth â BBC Cymru ac Action on Hearing Loss Cymru, wedi comisiynu adroddiad gan Brifysgol Abertawe ar Deledu Digidol a Chynulleidfaoedd Byddar/Trwm eu Clyw yng Nghymru. Ariannwyd y prosiect gan Action on Hearing Loss Cymru, BBC Cymru, cynllun Bridging the Gaps Prifysgol Abertawe, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, Sefydliad Ymchwil y Celfyddydau a'r Dyniaethau Prifysgol Abertawe ac S4C.
Ymchwil Llythrennedd Cyfryngau
Mae S4C, mewn partneriaeth â swyddfa Comisiynydd Plant Cymru a Logicalis, wedi comisiynu adroddiad gan Wisekids ar lythrennedd cyfryngau yng Nghymru ymysg disgyblion blwyddyn 9.
Dyma'r adroddiad, a ryddhawyd ar y 1af o Ragfyr: yma
www.wisekids.org.uk/wk/new-1st-dec-2014-generation-2000-research-findings/
Ymchwil ar Ddefnydd Iaith Siaradwyr Cymraeg
Mae S4C, BBC Cymru a Llywodraeth Cymru wedi comisiynu ymchwil ar y cyd gan Beaufort Research i edrych ar ddefnydd iaith siaradwyr Cymraeg ar draws nifer o sefyllfaoedd.
Gellir gweld copi pdf o ganlyniadau'r ymchwil drwy glicio yma.
Fel pob darlledwr, mae ymchwil yn bwysig i S4C, er mwyn darganfod barn y cyhoedd. Caiff ymchwil ei gynnal o dan y penawdau canlynol:
Mesur Cynulleidfa
Mae cynulleidfa S4C yn cael ei fesur gan BARB [Broadcasters' Audience Research Board], sydd hefyd yn mesur holl gynulleidfaoedd teledu ledled Prydain. Ym mis Ionawr 2010 lansiwyd system newydd o fesur cynulleidfa teledu, pryd y cafwyd panel mesur newydd. Y tro diwethaf i hyn ddigwydd oedd yn 2002.
Mae 500 o gartrefi yng Nghymru ar banel mesur BARB, gyda 250 ohonyn nhw'n cynnwys o leiaf un siaradwr Cymraeg. Mae dyfais fesur yn cael ei gosod yn y cartref, sy'n cofnodi'n awtomatig pa sianel sy'n cael ei gwylio. Mae hefyd yn cofnodi pwy sy'n gwylio, trwy ofyn i bob aelod o'r teulu wasgu botwm personol ar declyn llaw pwrpasol pan fydd ef neu hi'n gwylio.
Mae'r holl gartrefi sydd ar y panel yn cael eu dewis yn ofalus gan BARB er mwyn sicrhau bod gyda ni gynrychiolaeth gytbwys o ran math o aelwyd, math o unigolyn, derbyniad teledu ac adnoddau yn y cartref, er enghraifft, fideo, PVR (recordydd fideo personol, e.e. Freeview+, Sky+), neu bod yn berchen ar fwy nag un teledu.
Mae yna dros 425 o siaradwyr Cymraeg ar y panel mesur a gan mai tua 640,000 o siaradwyr Cymraeg oedran 4+ sydd yng Nghymru yn ôl amcanion BARB, yna ar gyfartaledd, mae un siaradwr Cymraeg ar y panel yn cynrychioli tua 1,500 o bobl. Mae hyn yn cymharu'n ffafriol iawn â chywirdeb y sampl ym Mhrydain gyfan, gyda 5,100 o gartrefi a 12,500 o unigolion ar y panel cyfan, a gydag un unigolyn ar y panel ym Mhrydain yn cynrychioli tua 4,500 o bobl.
Bydd ffigurau gwylio dros nos yn cyrraedd S4C fore drannoeth, gyda'r ffigyrau gwylio terfynol yn cyrraedd dros y 28 diwrnod canlynol. Yn gyffredinol derbynnir fod ffigyrau cyflawn i mewn ar ôl wythnos.
Y math o ddata sy'n cael ei gasglu gan y panel yw:
Ymateb Cynulleidfa
Mae Panel Ymateb S4C yn cael ei redeg gan TRP.
Mae 1,500 o bobl ar y panel yn cynnwys siaradwyr Cymraeg a di-Gymraeg, gyda'r data yn cael ei bwysoli i fod yn gynrychioliadol o Gymry Cymraeg a Chymry yn ddaearyddol ac o ran oedran, dosbarth cymdeithasol a rhyw.
Bob wythnos, bydd pob aelod o'r panel yn derbyn dyddiadur rhaglenni ac ambell waith, holiadur. Mae'r dyddiadur rhaglenni yn cynnwys holl raglenni'r wythnos ar gyfer S4C. Bydd yr aelod yn rhoi marc allan o 10 i bob rhaglen y maent wedi ei gwylio yn y dyddiadur, ac o ganlyniad cawn ddata IG [Indecs Gwerthfawrogiad] ar gyfer y rhaglenni hyn. Sgôr allan o 100 yw IG ac fe gymerir sgoriau rhaglenni gyda chyfartaledd y genre hynny. Mae'n bosib i gymharu sgoriau gyffredinol i sianelau hefyd.
Mae cynnwys yr holiadur yn amrywio bob wythnos gyda chwestiynau am raglenni teledu yn gymysg â chwestiynau am faterion cyffredinol.
Ymchwil Rhaglenni a Phrosiectau
Fe gynhelir prosiectau amrywiol drwy'r flwyddyn yn ôl y galw. Gall hyn gynnwys profi rhaglenni cyn iddynt gael eu darlledu, asesu barn am gyflwynwyr, edrych ar fathau penodol o raglenni, neu brosiectau cyffredinol yn ymwneud â iaith neu ddelwedd.
Ymchwil Marchnata
Fe gynhelir arolwg rheolaidd o 1,000 o bobl (800 yn Gymry Cymraeg, 200 yn ddi-Gymraeg) unwaith y flwyddyn trwy Gymru er mwyn mesur ffactorau sy'n ymwneud â delwedd S4C. Drwy'r gwasanaeth yma, gallwn ni asesu effeithiolrwydd ymgyrchoedd hyrwyddo hefyd.
Ymchwil i Wasanaethau Arlein
Fe fesurir nifer o agweddau o wasanaethau arlein: mae rhestr o'r prif rai, a'u diffiniadau isod:
Sesiynau Gwylio - nifer o sesiynau o wylio ar Clic ac iPlayer, gan gynnwys gwylio byw ar Clic. Gellir gwahaniaethu rhwng rhaglenni a chlipiau neu deunydd hyrwyddo.
Lawrlwythiadau - nifer o weithiau mae eitem wedi cael ei lawrlwytho, er enghraifft podlediad neu Ap.
Ystadegau'r We: (Mesurir gan Google Analytics)
Ymweliadau - nifer o ymweliadau i'r safle we gyda dim ond un ymweliad pob hanner awr yn cyfrif o bob cyfrifiadur
Ymwelwyr Unigryw - nifer o ymwelwyr gwahanol sydd wedi ymweld â'r safle we yn ystod y cyfnod
Argraffiadau Tudalen - nifer o dudalennau wyliwyd o fewn y wefan. Gall tudalen gyfrif mwy nag unwaith
Rydym hefyd yn monitro y defnydd o rwydweithiau cymdeithasol o bob math.
Ymchwil Crefydd
I gyd-fynd a'r gyfres "Diwygiad 04/05" a ddarlledwyd ym mis Hydref 2004, fe gomisiynodd S4C ymchwil i weld beth oedd arferion a barn pobl yng Nghymru o safbwynt crefydd. Fe holodd cwmni Beaufort Research gwestiynau ar grefydd ar ran S4C yn eu harolwg Omnibws ym Mehefin 2004.
Roedd hwn yn sampl cynrychioliadol o 993 o unigolion dros 16 oed drwy Gymru gyfan. Mae'r tablau data yn dangos y dadansoddiadau fesul rhanbarthau a grwpiau demograffig. Ni ddylid ail-gyhoeddi unrhyw ran o'r data heb ymgynghori gyda S4C.
Cliciwch yma er mwyn darllen y ddogfen 'Ymchwil Crefydd yng Nghymru' (Saesneg yn unig).
Ymchwil Is-deitlo
Mewn cydweithrediad â'r RNID, mae S4C wedi cynnal gwaith ymchwil ymhlith detholiad o wylwyr S4C, gan gasglu bod astudiaeth fwy eang a manwl o anghenion gwylwyr yn hanfodol cyn datblygu'r gwasanaeth is-deitlo ymhellach.
Cliciwch yma er mwyn darllen y ddogfen: 'Ymchwil i'r galw am is-deitlo Cymraeg yng Nghymru'.
Mae'r dogfennau yma ar gael ar ffurf 'Adobe Acrobat PDF'. Os nad oes gennych 'plug-in' Acrobat ar eich cyfrifiadur yn barod, cliciwch ar yr icon 'Get Acrobat Reader' (mae'n rhad ac am ddim).