Gall unigolion gyfathrebu'n rhwydd gydag S4C ac mae S4C yn gwneud rhaglenni ac yn cynnal digwyddiadau'n rheolaidd ledled Cymru.
Ers ei sefydlu, bu'r gynulleidfa'n rhan hanfodol o lwyddiant S4C. Mae cymunedau amrywiol Cymru yn rhan annatod o'r hyn yw S4C - ac mae S4C, yn ei thro, yn rhan annatod o fywyd cymunedau Cymru.
Ar y sgrînYn berfformwyr, cyflwynwyr ac actorion, doniau o Gymru ac wedi eu meithrin yng Nghymru yw cynsail rhan helaeth o'r gwasanaethau a gynigir gan S4C. Caiff llawer o'r rhaglenni a welir ar S4C hefyd eu ffilmio ar leoliad mewn gwahanol ardaloedd o Gymru ac mae cynulleidfaoedd o wahanol froydd yn rhan annatod o lwyddiant ambell raglen.
Adlewyrchir bwrlwm gwleidyddol, economaidd a chymdeithasol cymunedau Cymru ar y gwasanaeth Newyddion bob dydd. Bydd barn pobl o bob cefndir, anian, oedran a chwr o Gymru a thu hwnt i'w glywed ar raglenni materion cyfoes S4C a'r cylchgrawn nosweithiol, Heno.
Ar y ffôn, trwy lythyr neu e-bostBob blwyddyn, mae miloedd o bobl yn defnyddio gwasanaeth Gwifren Gwylwyr S4C i fynegi barn am raglenni neu holi am eu cynnwys a'u hamseroedd. Ar ben arall y ffôn mae gweithredwyr cyfeillgar y Wifren bob amser yn barod i helpu ac i nodi pob galwad. Pa bynnag ymholiadau neu'r sylwadau sydd gan wylwyr, dyma'r gwasanaeth sy'n cario'u llais personol nhw at galon y gwasanaeth.
Ar safle S4C ar y WeCeir toreth o wybodaeth a chystadlaethau ar wefan S4C ac yno hefyd mae'r Bwrdd Negeseuon, lle gall pobl ledled y byd gyfnewid negeseuon a syniadau. Agorir Siop Siarad S4C yn rheolaidd ar gyfer sesiynau gan rai o sêr a gwneuthurwyr rhaglenni'r sianel - cyfle euraid i holi a mynegi barn. Unwaith y flwyddyn, bydd Cadeirydd S4C hefyd yn cynnal cyfarfod o'r fath yn y Siop Siarad.
RhyngweithioGyda nifer cynyddol o raglenni, mae modd i wylwyr gael mewnbwn uniongyrchol i'r cynnwys. Trwy ffonio, ffacsio neu e-bostio gall gwylwyr gyfrannu at gystadlaethau a thrafodaethau.
Noson Gwylwyr S4CBedair gwaith y flwyddyn, fel rhan o'i ymrwymiad i fod yn atebol i wylwyr, bydd Awdurdod S4C yn cynnal noson agored mewn gwahanol ardaloedd o Gymru. Cynhelir y cyfarfodydd hyn fel estyniad o'i gyfarfodydd misol ac yn ogystal â mynegi barn a holi Cadeirydd a Phrif Weithredwr S4C, rhydd pob cyfarfod gyfle i bobl drafod dyfodol darlledu yng Nghymru.
Mewn Eisteddfodau a SioeauBydd S4C yn ymweld â nifer fawr o froydd Cymru trwy ei phresenoldeb ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd a'r Sioe Amaethyddol yn Llanelwedd. Bwrlwm o ddigwyddiadau, arddangosfeydd ac adloniant sydd i'w gael yno fel arfer, fel y tystia'r miloedd sy'n galw heibio.
Mae Taith Haf S4C yn gyfle i ymweld â digwyddiadau llai o faint, yn ffeiriau lleol a sioeau amaethyddol. Yn ogystal â bod yn gyfle i gwrdd â rhai o sêr y sianel, bydd y daith hon yn cynnig cystadlaethau a llond trol o hwyl.
Apêl Flynyddol S4CBydd S4C yn dewis un elusen i fod yn ffocws penodol i'w Hapêl Flynyddol. Yn ogystal â rhoi sylw sylweddol i'r elusen ar y y sgrîn, cynigir cymorth ymarferol i'w galluogi i hybu ei hun yn well, gyda'r nod o godi ymwybyddiaeth yn ogystal ag arian. Ymysg yr achosion da sydd eisoes wedi elwa mae MENCAP, Tenovus a Sefydliad Prydeinig y Galon. Hysbysebir yn eang i annog ceisiadau gan achosion da mor amrywiol â phosibl.
NawddCaiff cyrff mor amrywiol â Cherddorfa Genedlaethol Cymru, y Sioe Amaethyddol Frenhinol ac Chwmni Opera Canolbarth Cymru eu noddi'n flynyddol gan S4C - arwydd pellach o ymrwymiad S4C i gymunedau Cymru.