Mae S4C yn gweithredu o dan Ddeddfau Darlledu 1990 ac 1996 a Deddf Cyfathrebiadau 2003 i ddarparu amrywiaeth o raglenni teledu Cymraeg o ansawdd uchel.
Mae S4C yn ymrwymo i:Mae aelodau'r Awdurdod a swyddogion S4C yn cynnal Nosweithiau Gwylwyr cyhoeddus yn rheolaidd trwy gydol y flwyddyn, mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae croeso i wylwyr ddod i'r digwyddiadau hyn i drafod S4C, ein rhaglenni a gwasanaethau. Mae gwylwyr hefyd yn gallu cysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C i fynegi barn.
Y gymunedMae S4C yn cynnal digwyddiadau mawr a bach ledled Cymru. Mae nifer o raglenni yn cael eu recordio mewn gwahanol leoliadau ac mae cynulleidfaoedd o wahanol ardaloedd yn elfen hollbwysig o'r rhaglenni hyn.
Mae bywyd gwleidyddol, cymdeithasol ac economaidd cymunedau Cymreig yn cael eu hadlewyrchu yn ddyddiol ar y gwasanaeth newyddion, rhaglenni ffermio a materion cyfoes a'r rhaglenni cylchgrawn dyddiol Prynhawn Da a Heno.
Mae gan S4C gyfrifoldeb i gynrychioli ac i apelio at bawb - pobl o wahanol ddiwylliannau, cenedligrwydd, hil, crefyddau, yr anabl, cyfeiriadedd rhywiol ac o bob oedran. Ein nod yw adlewyrchu hynny yn ein gwasanaeth a'n rhaglenni. Mwy o wybodaeth am ymrwymiad S4C i amrywiaeth
Gwasanaethau MynediadMae'n bwysig i S4C bod ein rhaglenni yn hawdd eu dilyn ac yn ddeniadol i gynulleidfa mor eang â phosibl. Mae isdeitlau Saesneg ar gael ar y rhan fwyaf o raglenni. Mae isdeitlau Cymraeg hefyd ar gael ar nifer o raglenni. Mae rhai rhaglenni yn cael eu dangos gydag arwyddwyr BSL (British Sign Language) ar ochr y sgrîn. Mae gwasanaeth sain ddisgrifio Cymraeg hefyd ar gael ar gyfer pobl ddall a rhannol ddall. Mwy o fanylion am wasanaethau mynediad S4C.
Dysgwyr y GymraegMae S4C yn cynnig gwasanaeth dysgu unigryw ar gyfer dysgwyr y Gymraeg ar s4c.cymru/dysgwyr. Mae uchafbwyntiau rhaglenni, sgriptiau, gweithgareddau a nodiadau cefndir ar gael ar y gwasanaeth.
Datganiad Polisi RhaglenniBob blwyddyn mae S4C yn cyhoeddi ei chynlluniau ar gyfer y Gwasanaeth Rhaglenni ar ffurf Datganiad Polisi Rhaglenni sydd ar gael ar safle'r Awdurdod. Mae hwn yn cynnwys targedau corfforaethol S4C.