Yn wreiddiol o Lanbedr Pont Steffan, ond bellach yn byw yn Aberystwyth, ymunodd Geraint ag S4C fel Ysgrifennydd y Bwrdd ym mis Hydref 2021.
Cyn hynny, bu'n Ysgrifennydd y Brifysgol ym Mhrifysgol Aberystwyth am fwy nag wyth mlynedd.
Fel rhan o'i rôl yn S4C, mae Geraint yn gyfrifol am gynghori Bwrdd Unedol S4C i sicrhau llywodraethu priodol ac effeithiol ar draws holl waith S4C.