Alla i ddim dod o hyd i raglen arbennig i'w wylio ar y wefan/S4C Clic. Pam ddim?
Oherwydd problemau hawliau, nid yw'n holl raglenni ar gael ar S4C Clic. Fodd bynnag, mae darpariaeth eang ar gael drwy wasanaeth S4C Clic ac rydym yn rhyddhau bocs sets o'r archif am gyfnodau penodol. Os ydych yn cael problemau technegol gwylio cynnwys sydd ar S4C Clic, cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C.
Alla i ddim gwylio rhaglen arbennig ar y wefan/S4C Clic. Pam ddim?
Mae gwaharddiadau hawlfraint yn ein rhwystro rhag dangos ein holl gynnwys y tu allan i'r DU. Ymddiheuriadau am hyn.
Ydi S4C ar gael ar Freeview drwy weddill y DU?
I dderbyn S4C y tu allan i Gymru ar hyn o bryd, gallwch wneud hynny drwy loeren Sky ar sianel 134, drwy wasanaeth Freesat ar sianel 120 neu drwy Virgin ar sianel 164. Nid oes angen tanysgrifio i becynnau SKY i dderbyn y sianel. Gallwch hefyd wylio ar-lein www.s4c.cymru/clic.
Sut ydw i'n gwybod os oes DVD ar gael o raglen neu ffilm arbennig sydd wedi ymddangos ar S4C?
Cysylltwch â Gwifren Gwylwyr S4C os gwelwch yn dda.
Alla i gofrestru ar gyfer cael gwybod am y rhaglenni diweddaraf a chystadlaethau gan S4C?
Y ffordd orau i wneud hyn yw drwy greu cyfrif Fy S4C, neu os oes cyfrif gyda chi yn barod i addas eich gosodiadau i dderbyn e-byst gennym.
Mae gen i ddigwyddiad neu stori newyddion. Sut dwi'n cael sylw ar S4C?
Nid yw S4C yn cynhyrchu rhaglenni. Cysylltwch â'r BBC ar gyfer ein gwasanaeth newyddion drwy newyddion9@bbc.co.uk neu 02920 322 257. Mae Heno yn cynnwys nifer o straeon o bob cwr o Gymru. Gallwch gysylltu â nhw drwy heno@tinopolis.com neu 01554 880880 os yw'r digwyddiad yn y de neu 01286 685 246 os yw'r digwyddiad yn y gogledd.
Ydi hi'n bosib cael copi o raglen neu ffilm a ddangoswyd ar S4C?
Nid yw S4C yn darparu copïau o raglenni ar gyfer aelodau'r cyhoedd ac eithrio bod prawf mai ar gyfer defnydd addysgol sydd eu hangen. Os oes gennych brawf, dylid cysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C i gychwyn os gwelwch yn dda.
Pam nad oes sylwebaeth Saesneg ar holl gemau rygbi a phêl-droed sy'n ymddangos ar S4C?
Yn arferol mae S4C yn sicrhau hawliau darlledu Cymraeg yn unig. Pan ar gael rydym yn manteisio ar hawliau iaith Saesneg ac yn cynnig sylwebaeth ar y "botwm coch" ond nid yw hynny'n bosib ym mhob achos.