Mae Sioned yn adnabyddus yn y diwydiant fel cyn-Gomisiynydd Comedi BBC Radio 4 a chyn-Bennaeth Comedi ITV.
Cyn hynny bu'n gynhyrchydd rhaglenni gyda chwmnïau teledu Talkback a Hat Trick.
Ymunodd Sioned gydag S4C fel y Prif Weithredwr dros dro ar 08 Ebrill 2024.
Prif gyfrifoldeb Sioned dros y misoedd nesaf fydd arwain ar Gynllun Gweithredu S4C, sydd wedi'i gymeradwyo gan y Bwrdd Unedol, ac sy'n dilyn cyhoeddi Adroddiad Capital Law.