S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Amdanom ni

Safonau rhaglenni a chynnwys

Mae'n ofynnol i S4C sicrhau bod cynnwys gwasanaeth teledu a ffrydio byw S4C yn cydymffurfio â rheolau a bennwyd gan Ofcom. Amlinellir y rhain yng Nghod Darlledu Ofcom ac maent yn berthnasol i holl ddarlledwyr y DU.

Mae gan Ofcom ystod o bwerau a chyfrifoldebau statudol i sicrhau bod gwasanaethau S4C yn cydymffurfio â'r gofynion rheoleiddio perthnasol. Mae'r rhain yn cynnwys y gallu i bennu cosbau ariannol ar S4C am beidio â chydymffurfio â'r gofynion statudol. Gall Ofcom ddirwyo S4C hyd at £250,000.

Mae'n ofynnol ar wasanaethau rhaglenni ar-alw S4C i gydymffurfio gydag Adran 368Q o Ddeddf Cyfathrebiadau 2003, ac (i'r graddau eu bod yn berthnasol i S4C), Rheolau Ofcom ar gyfer darparwyr gwasanaethau rhaglenni ar-alw. Mae Ofcom yn gyfrifol am reoleiddio cynnwys golygyddol rhaglenni ar-alw a ddarperir gan S4C tra bo hysbysebion ar-alw yn cael eu rheoleiddio gan yr Awdurdod Safonau Hysbysebu (ASH).

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?