Ers ymuno â S4C yn 2019 bu Geraint yn Gomisiynydd Newyddion a Materion Cyfoes, yn Gyfarwyddwr Strategaeth Cynnwys a Chyhoeddi ac yn Brif Swyddog Cynnwys Dros Dro. Bu'n gyfrifol am ddatblygu gwasanaeth newyddion digidol S4C, yn arwain y tim comisiynu ac yn datblygu strategaeth gyhoeddi cynnwys aml-blatfform.
Cyn ymuno â'r sianel, bu'n newyddiadurwr gyda ITV Cymru am 25 mlynedd, yn Ohebydd ar gyfres materion cyfoes Y Byd ar Bedwar, yna'n Olygydd y Gyfres ac yn Bennaeth Rhaglenni Cymraeg ITV.
Fel Prif Weithredwr mae'n Aelod o Fwrdd S4C, yn arwain yr Uwch-dîm Arwain ac yn cadeirio Bwrdd Masnachol S4C.