S4C
Dewisiadau

Cynnwys

Amdanom ni

Iestyn Morris
Pennaeth Cyfreithiol a Materion Busnes​

Wedi'i eni a'i fagu yng Nghaerfyrddin a Bro Morgannwg, astudiodd Iestyn y gyfraith ym Mhrifysgolion Aberystwyth a Chaerdydd. Ar ôl cymhwyso yn 2005, gweithiodd mewn practis preifat yng Nghaerdydd lle aeth yn ei flaen i fod yn Bartner yn arbenigo'n bennaf mewn cyfraith cyflogaeth. Ymunodd ag S4C yn 2018, gan arwain y timoedd cyfreithiol a materion busnes. Yn rhinwedd ei swydd mae Iestyn yn gyfarwyddwr anweithredol ar gwmni'r Educational Recording Agency (ERA). Mae Iestyn hefyd wedi bod yn ymddiriedolwr gyda Cholegau Cymru ac elusen Tenovus, ac mae'n parhau'n lywodraethwr efo Coleg Caerdydd a'r Fro ac Ysgol Garth Olwg. Ymunodd ag Uwch Dîm Arwain S4C yn Ionawr 2025.

Methu dod o hyd i'r hyn oeddech chi'n chwilio amdano?