Mae S4C yn darparu cryn dipyn o wybodaeth i Ofcom bob blwyddyn mewn perthynas â pherfformiad gwasanaeth teledu S4C.
Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth ariannol, gwybodaeth feintiol yn ymwneud â pherfformiad gwasanaeth teledu S4C a gwybodaeth yn ymwneud â chydymffurfio â chwotâu perthnasol Ofcom.
- Mae S4C yn darparu'r wybodaeth ganlynol i Ofcom:
- Gwybodaeth am incwm a gwariant blynyddol;
- Gwybodaeth ariannol fisol a blynyddol yn ymwneud â gwerthiannau hysbysebion teledu ar S4C;
- Gwybodaeth fanwl am wariant fesul genre rhaglenni o fewn gwasanaeth teledu S4C;
- Ffigurau gwylio manwl ar gyfer adroddiadau blynyddol Ofcom ar Ddarlledu Gwasanaeth Cyhoeddus a Gwledydd y Cyfryngau; a
- Gwybodaeth yn ymwneud â chyflawni cwotâu rhaglenni a gwasanaethau mynediad o fewn gwasanaeth teledu S4C.
Yn ogystal, mae S4C yn talu ffî rheoleiddio i Ofcom bob blwyddyn.