Mae Mali yn arwain ar waith materion cyhoeddus a phartneriaethau strategol S4C. Mae'n sicrhau bod S4C yn meithrin a chynnal perthynas gyda'i rhanddeiliaid allweddol ac yn hyrwyddo dealltwriaeth well o amcanion, gofynion a llwyddiannau'r corff.
Wedi'i geni a'i magu yng Nghaerdydd, mae gan Mali radd yn y Gyfraith o'r LSE, a gradd meistr mewn Cyfathrebu Gwleidyddol o JOMEC, Prifysgol Caerdydd. Fe ymunodd hi ag S4C gyntaf yn 2017.
Mae hi'n aelod o Uwch Dîm Arwain S4C ers Ionawr 2025.