Mae S4C wedi ymrwymo i gyfrannu at wella amrywiaeth a chynhwysiant y sector darlledu yng Nghymru.
Mae hyn yn cynnwys gwaith sy'n fewnol i S4C yn ogystal ag ymwneud â chwmnïau cynhyrchu a phartneriaid eraill wrth gomisiynu a datblygu cynnwys, a chefnogi talent newydd.
Ar y tudalennau isod cewch ddarllen mwy am gynlluniau a pholisïau S4C, am ein partneriaid, ac am ein cynnwys.
Os hoffech gysylltu gallwch wneud ar amrywiaeth@s4c.cymru neu drwy gysylltu â Gwifren Gwylwyr S4C.
Darllenwch am gynlluniau S4C ar gyfer amrywiaeth a chynhwysiant.
Rydym wastad yn ceisio gwella hygyrchedd ein gwasanaethau. Yn dilyn adborth gan y Gymuned Iaith Arwyddion Prydain (BSL) rydym wedi addasu lleoliad dolen BSL ar ein platfform S4C Clic i'w wneud yn fwy amlwg. I gydfynd ag Wythnos Ymwybyddiaeth Byddardod (Mai 10), lansiwyd ein cylchlythyr BSL newydd. Yn y cylchlythyr, mae opsiwn derbyn y wybodaeth trwy fideo Dehonglydd BSL.
Os am dderbyn y cylchlythyr, cliciwch y botwm isod.