Cegin Mr Henry
calendar Dydd Mawrth, 22 Chwefror 2022
Pasteoid cig oen Cymreig
-
-
Digon i fwydo 6-8
-
Amser coginio 25-30 munud
Cynhwysion
- 1 llwy fwrdd o olew
- 300g briwgig cig oen Cymreig
- 1 llond llaw o mintys ffres
- 1 llwy fwrdd saws Gaerwrangon
- 2 pecyn crwst byr wedi'u rholio yn barod
- 1 melynwy
- 2 llwy de blawd corn
- Halen a pupur
- 1 bag o llysiau stewio wedi torri yn barod
Neu
- ½ winwnsyn bach, wedi'i dorri'n fan
- 1 moron bach, wedi'u torri'n fan
- 100g o datws wedi'u crafu a'u torri'n fan
- 75g o datws melys wedi'u crafu a'u torri'n fan
Dull
- Cynheswch y ffwrn i 200c
- Musferwi a draenio'r llysiau
- Ffriwch y briwgig nes ei fod yn frown
- Ychwanegwch y winwns saws Caerwrangon a mint.
- Ychwanegwch y llysiau
- Ychwanegwch 2 llwy fwrdd o blawd corn a tymaid o ddŵr.
- Torrwch allan 6- 8 cylch o'r crwst
- Llenwch hanner cylch gyda'r gymysgedd cig
- Brwsiwch y cylch gyda'r melynwy wyau a phlygwch drosodd.
- Gwnewch yn siŵr bod y parsel wedi'i gau a'i selio.
- Brwsiwch y pasteiod gyda mwy o olchi wyau.
- Coginiwch 25- 30 munud mewn popty 200c.
Rysait gan Lloyd Henry (Cegin Mr Henry).
Instagram: @CeginMrHenry
Twitter: @CeginMrHenry
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio
Gofynnwn yn garedig i chi feddwl am yr amgylchedd cyn i chi brintio.
Please consider the environment before printing.