Chris Roberts
calendar Dydd Iau, 02 Rhagfyr 2021
Sbrowts
Cynhwysion
- sbrowts
- parsli
- vermouth sych
- garlleg
- anchovies
- pupur du
Dull Chris:
- Torrwch y gwaelodion i ffwrdd a thynnu'r croen cyn eu torri yn ei hanner.
- Gwnewch menyn gan ychwanegu garlleg ac anchovies iddo.
- Mewn padell sych ar wres canolig, rhowch y sbrowts i mewn ar yr ochr sydd wedi ei dorri.
- Gadewch nhw am 3-4 munud ddatblygu'r crwst.
- Ychwanegwch ychydig o Vermouth sych.
- Gadewch iddo ostwng tua hanner i goginio'r alcohol.
- Ychwanegwch y menyn anchovies a'i adael iddo doddi dros y sbrowts.
- Ychwanegwch persli wedi ei dorri'n fân gydag ychydig o pupur du.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Bwyd Epic Chris.
Rysáit gan Chris Roberts.
Instagram: @flamebaster
Twitter: @FLAMEBASTER
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio