Marinadio'r cluniau mewn mirin, saws soî, siwgr gwyn, garlleg, sinsir ac olew sesame. I mewn i'r oergell i'r am awran.
Cynhesu olew (un sydd 'efo marc smocio uchel fel olew llysiau, olew blodyn yr haul, olew pysgnau) fynu i 170℃.
Sortio'r 'dredge': 50/50 blawd plaen a blawd corn, hadau sesame a halen. I mewn efo'r cluniau cyw iâr - bydd angen 'neud yn siwr bod pob darn o'r cyw iâr wedi'i orchuddio yn y gymysgedd. Tap bach i gal gwared o'r blawd a 'da ni'n barod am y ffrio!!
Yn ofalus iawn, rhoi'r cluniau i mewn i'r sosban o olew - PLIS peidiwch â gorlenwi'r badell /sosban / ffrïwr. Ffrio mewn 'batches' bach o 2-3 max am 10 munud dda yn dibynnu ar be 'di seis y cyw iâr. Gadael i pob batch orffwys am 10 munud ar ôl ffrio.
Picl:
Tra ma'r cig yn gorffwys, 'neud picl syml efo'r sialóts, finegr reis du, halen, a drizzle bach o olew olewydd EV.
I orffen:
Ar ôl tostio'r 'milk buns', amser i adeiladu'r byrgyr mwya' epic 'rioed! Squeeze da o Kewpie mayo, ar efo'r cyw iâr, picl, mwy o Kewpie, gwymon crispi a gratio'r wasabi (a / neu defnyddio tsili ffres am gic). IDDI'N GALAD!!
Rysáit gan Chris Roberts a'i westeion arbennig (Bwyd Byd Epic Chris).