calendar Dydd Iau, 02 Rhagfyr 2021
1. Tynnwch popeth o thu fewn (Y giblets) i'r gŵydd a'u rhoi naill ochr i'w defnyddio i'r grefi.
2. Torrwch adenydd y gŵydd i ffwrdd a rhoi nhw mewn sosban gyda'r Giblets.
3. Rhowch y gŵydd ar ben rac cyn gwneud y photes.
Y Photes
4. Ychwanegwch grawn pupur mewn sosban o ddŵr poeth, dau hanner nionyn, oren a sbeis staranise. Gadewch y clawr ar y sosban a'i ferwi am 10 munud.
5. Gorchuddiwch y gŵydd i gyd gyda'r potes poeth.
6. Gadewch y gŵydd i oeri wrth baratoi'r sbeisys.
Y sbeisys
7. Cymysgwch grawn pupur, 5 clôf, chinese five spice, halen a siwgr cyn ychwanegu finegr reis gwin, saws soi, saws llymarch a sudd 2 clememntines.
8. Gwagiwch unrhyw ddŵr o'r gŵydd a rhowch y cymysgwch sbeislyd tu fewn iddo.
9. Rhowch garlleg i mewn, digon o clementines a nionyn.
Coginio'r Gŵydd
10. Rhowch llwyth o nionod, garlleg a clementines ar waelod y badell pobi a rhowch y gŵydd i mewn.
11. Ychwanegwch mwy o sudd clementine a chig moch ar ben y gŵydd a rhoi'r caead ymlaen.
12. Gwnewch yn siŵr eich bod chi wedi gorchuddio'r a selio'r ŵydd cyn ei rhoi yn y popty am 3 awr.
13. Tynnwch oddi ar y tân neu allan o'r popty a gadael iddo orffwys am o leiaf awr.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Bwyd Epic Chris.
Rysáit gan Chris Roberts.
Instagram: @flamebaster
Twitter: @FLAMEBASTER