calendar Dydd Iau, 02 Rhagfyr 2021
1. Rowch y cig mewn tun pobi.
2. Gwnewch marinêd syml sy'n cynnwys garlleg, olew, pupur, halen môr, gwymon dulse a wakame.
3. Rhowch y marinêd dros y cig.
4. Ychwanegwch cwrw Cymreig i fynd dros y cyfan.
5. Tycio 'r ysgwyddau gafr efo papur pobi a lapio'r cyfan gyda ffoil.
6. Rhowch yn y popty ar wres o 170C am 3 awr.
7. Tra bod y cig yn oeri – leiniwch tuniau pobi hirsgwar gyda papur pobi.
8. Ar ôl i'r cig oeri, torrwch y cig yn ddarnau a'i osod yn y tuniau gyda'r gwymon.
9. Ar ôl llenwi'r tuniau, ychwanegwch yr hylif o'r cig sef y cwrs a'r braster sydd wedi cymysgu gyda'r gwymon hallt yn y popty.
10. Gorchuddiwch y tun cyfan gyda mwy o bapur pobi a phwyso i lawr ar y cymysgedd gan ddefnyddio tun arall a cwpwl o ganiau a'i gosod yn yr oergell dros nos.
Creu'r Scrumpets
11. Rhowch y blawd, wyau a briwsion bara panko wedi cymysgu efo ceirch mewn powlenni ar wahân.
12. Tynnwch y cig mewn tun allan o'r oergell a torri'r cig mewn i ddarnau hirsgwar.
13. Fesul un, gorchuddiwch y darnau hirsgwar mewn i'r blawd yn gyntaf, wedyn yr wyau ac i orffen gorchuddiwch gyda'r briwsion bara panko.
14. Ffriwch pob scrumpet ar wres canolig.
15. Unwaith mae nhw yn y badell ffrio, gadewch iddyn nhw frownio a datblygu crwst da ar bob ochr. (Tua munud bob ochr)
Saws cyri sbeislyd melys
16. Torrwch y bricyll, afalau yn ddarnau bach a'r ffrio gyda phowdr cyri.
17. Ychwanegwch llefrith cnau coco a wedyn blitzio'r cyfan.
18. Dipiwch eich scrumpets mewn i'r saws a mwynhewch.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Bwyd Epic Chris.
Rysáit gan Chris Roberts.
Instagram: @flamebaster
Twitter: @FLAMEBASTER