Chris Roberts
calendar Dydd Iau, 02 Rhagfyr 2021
Nwdls cranc
Cynhwysion
- bol porc mochyn Cymreig
- sdoc
- saws Caerwrangon
- cwmin
- hadau ffenigl
- hadau carwe
- tsili wedi'i fygu
- cig cranc yn barod i goginio
- nwdls
- leim
- sialot
- garlleg
- saws pysgod
- saws llymarch
- siwgr brown
- cenhinen syfi
- saws soi ysgafn
- saws soi tywyll
*Bydd angen pot clai neu wok ar gyfer y rysait yma.
Dull Chris
Y cig
- Simrwch bol porc mochyn Cymreig am awr a hanner mewn sdoc efo ychydig o cwmin, hadau ffenigl a hadau carawe, Tsili wedi ei fygu a saws Caerwrangon.
- Cadwch y sdoc o'r cig wrth law ar ôl coginio'r cig.
Y nwdls
- Rhowch y nwdls mewn dŵr poeth am tua chwarter awr.
Saws Thai
- Suddwch un leim i fewn i bowlen.
- Torrwch y tsili a'i sleisio'n fân cyn gratio'r sialot a garlleg ac ychwanegu i'r cymysgedd.
- Ychwanegu saws pysgod, tipyn bach o siwgr brown a chenhinen Syfi cyn cymysgu pob dim efo'i gilydd.
Y sdoc a'r nwdls
- I turbochargio'r sdoc, rowch glug go dda o saws Pysgod, saws Llymarch, saws soi tywyll a saws soi ysgafn i mewn.
- Sleisio'r porc yn denau yna ychwanegu ychydig o olew ar waelod y pot neu'r wok.
- Rhoi'r nwdls dros y porc cyn rhoi'r cig cranc ar dop y nwdl ac arllwys y sdoc ar ei ben.
- Rhowch caead ar y wok a gadewch iddo ferwi neu 'byblo' am 10 munud.
- Rhoi'r saws Thai dros y nwdls – ychydig ar y tro.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Bwyd Epic Chris.
Rysáit gan Chris Roberts.
Instagram: @flamebaster
Twitter: @FLAMEBASTER
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio