Rhowch dau felyn wy, pinsiad o halen a phowdr mwstard mewn powlen a'r gymysgu dda.
Yn araf, rhowch olew olewydd i mewn cyn torrir garlleg yn fân a'i ychwanegu i'r cymysgedd.
Ychwanegwch dail mintys wedi torri'n fân a sudd lemon i'r cymysgedd.
Y cig
Mae'n bwysig iawn i socian y cig mewn dŵr poeth a halen cyn dechrau er mwyn i'r bilen sydd o gwmpas yr ofal ddod i ffwrdd.
Tynnwch y bilen i ffwrdd o'r darnau cig a'i gosod nhw naill ochr.
Blawd 'coch'
Rhowch flawd plaen mewn i'r bowlen gyda digon o bupur cayenne, powdr mwstard a halen a'i gymysgu'n dda heb adael unrhyw rhannau o flawd plaen yn y cymysgedd.
Gan ddefnyddio llaw – gorchuddiwch pob ddarn o gig gyda'r blawd coch a'i gosod mewn powlen yn barod i goginio.
I goginio
Cynheswch olew 'groundnut' ar wres uchel ac ychwanegwch y nygets i'r olew am un neu ddau munud bob ochr tan i'r blawd droi'n greisionllyd.
Draeniwch yr olew sydd dros ben o'r nygets cyn ffrio'r darnau syn weddill.
Rhowch ar blât efo potyn o'r ailoi a phinsiad o halen.
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Bwyd Epic Chris.