Chris Roberts
calendar Dydd Iau, 02 Rhagfyr 2021
Cebab cig oen
Cynhwysion
Cig:
- cig oen Cymreig wedi'i ddeisio
Marinêd:
- hadau carwe
- hadau ffenigl
- hadau coriander
- hadau cwmin
- tsili Thai
- dail bae
- halen
- olew olewydd
Bara:
- toes (dwr, blawd, halen, a burum)
Ychwanegol:
- tsili
- pupur coch
- mintys
- finegr gwin gwyn
- finegr gwin coch
- siwgr
- rhosmari
- menyn
- sialot
Dull Chris
Marinâd:
- Tostio hadau carawe, ffenial, hadau coriander, hadau cwmin a tsili Thai nes bod nhw'n popio fel popcorn.
- Rhowch dail bae mewn 'pestle & mortar' efo ychydig o halen a malu gyda'r sbeisys cyn ychwanegu olew olewydd.
- Rhowch y marinâd ar y cig a'r thylino i mewn a'i adael i orffwys.
Y Toes (Gwnewch hwn y diwrnod cynt):
- Cymysgwch y blawd, halen a burum ac ychydig o ddŵr i wneud y toes.
- Gwasgwch y toes i siâp a'i osod ar y tân. Unwaith mae'r toes yn dechrau byblo, mae o'n barod am fflip bach.
Cebab a'r ychwanegion:
- Torgoch pupur a tsilis ar y tân a torri nhw i fyny. Cymysgwch gydag olew olewydd a mint.
- Piclwch y tsilis gan dorri'r tsilis a'u cymysgu efo finegr gwin gwyn a siwgr.
- Piclwch y sialóts gan dorri'r sialóts mewn i chwarteri a'u cymysgu efo olew olewydd, finegr gwin coch ac ychydig o halen.
- Am y 'crunch' 'na, sleisiwch cabaets coch yn denau cyn rhoi'r cig oen ar y tân.
- I gadw'r cig yn jiwsi-jiwsi, bastiwch nhw efo brwsh rhosmari, menyn a 'chydig o'r marinâd oedd dros ben.
- Coginiwch y cig tan i'r cig frownio'n dda.
- Rhowch bob dim ar blât a tyciwch mewn!
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Bwyd Epic Chris.
Rysáit gan Chris Roberts.
Instagram: @flamebaster
Twitter: @FLAMEBASTER
Sut i goginio
Copio
Wedi’i gopio