Mewn powlen, gwnewch bant bach yn ganol y blawd ac ychwanegu'r wyau.
Am bob 100g o flawd bydd angen 1 wy.
Cymysgwch gyda fforc ac wedyn dwylo i mewn i ddod â'r toes at ei gilydd gan dylino'r toes tan iddo ffurfio fel 'play-doh' yna'i lapio mewn cling film. Rhowch mewn oergell i oeri.
Nesaf bydd angen carfio digon o gaws i ychwanegu i'r saws. Os yn defnyddio olwyn gaws, tynnwch y clawr a charfio digon o gaws o'r top i greu powlen gaws anferth.
Y Pasta
Llenwch sosban â dŵr a rhoi ar y tân i ferwi.
Tynnwch y toes allan o'r oergell a'i dorri mewn i ddarnau bach. Gwasgwch hwn i lawr ychydig a'i roi drwy'r teclyn gwneud pasta.
Rhoi'r pasta i fewn i'r dŵr berw a'i goginio am 3 munud. (Os yn defnyddio pasta cyffredin – coginiwch am 9-11 munud.)
Flambe wisgi
Rhowch ychydig o wisgi Aber Falls mewn sosban gwrthstaen a'i losgi efo 'blow torch' cyn ei arllwys mewn i'r bowlen gaws.
Ychwanegu'r pasta gan ddefnyddio'r dŵr startsh o'r pasta i orchuddio'r cwbl ac i doddi'r caws.
Cymysgwch y pasta cyn ychwanegu'r grawn pupur wedi malu'n fân ac mae o'n barod. Iechyd da!
Rysáit wedi ymddangos yn wreiddiol fel rhan o raglen Bwyd Epic Chris.